Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Inquiry_Stage_02.jpg

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i gefnogi a hybu’r Gymraeg. Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y cyd-destun deddfwriaethol ac o ran polisi, yn ogystal â’r cyd-destun ehangach.

 

Fel rhan o’i ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd hyn yn cynnwys asesu’r broses o weithredu’r ddeddfwriaeth, ei heffaith a’i heffeithiolrwydd. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn rhoi cyfle i asesu penderfyniadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gyflwyno Mesur 2011, yn enwedig yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg.

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod y cyd-destun rhyngwladol ehangach, yn enwedig lle ceir enghreifftiau o ddeddfwriaeth a chynllunio ieithyddol sy’n cefnogi ieithoedd lleiafrifol.   

 

Y cefndir

Newidiodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y fframwaith a bennwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn sylweddol, gan ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu Comisiynydd y Gymraeg yn ei le. Rhoddodd y Mesur statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, a cheisiodd ddiddymu cynlluniau iaith Gymraeg yn raddol drwy gyflwyno safonau’r Gymraeg.

 

Ym mis Awst 2017, ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn – Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Yn ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei hamcanion fel a ganlyn:

 

  • taro’r cydbwysedd iawn rhwng hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a rheoleiddio dyletswyddau yn ymwneud â’r Gymraeg;
  • lleihau biwrocratiaeth yn y system; a
  • sicrhau gwerth am arian.

 

Mae rhai o’r cynigion mwyaf arwyddocaol yn cynnwys:

 

  • Diddymu Comisiynydd y Gymraeg a sefydlu prif gorff unigol - Comisiwn y Gymraeg – i hyrwyddo’r iaith a rheoleiddio safonau.
  • Trosglwyddo cyllidebau ac adnoddau ar gyfer gwaith hyrwyddo penodol arall sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i’r Comisiwn newydd.
  • Cadw safonau’r Gymraeg, ond dim ond fel y maent yn gymwys i wasanaethau.
  • Dim ond cwynion difrifol i gael eu harchwilio gan Gomisiwn y Gymraeg.
  • Llywodraeth Cymru i fod â chyfrifoldeb am wneud safonau a’u gosod.

 

Er mwyn trafod cynigion Llywodraeth Cymru yn eu cyd-destun, mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod hi’n bwysig edrych yn gyntaf ar y trefniadau sydd eisoes yn eu lle. Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad craffu eang ar ôl deddfu ar weithredu Mesur 2011 a phenderfyniadau polisi dilynol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Nod y Pwyllgor fydd asesu a yw nodau datganedig Mesur 2011, gan adeiladu ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, wedi creu neu hwyluso’r canlyniadau a ragwelwyd. Bydd y Pwyllgor hefyd yn asesu agweddau ar y fframwaith deddfwriaethol a bennwyd yn 2011 nad ydynt wedi gweithio’n ddigonol neu yn ôl y bwriad.

 

Yn ychwanegol at y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, bydd y Pwyllgor hefyd yn ceisio casglu tystiolaeth o safbwynt rhyngwladol. Bydd y Pwyllgor yn trafod datblygiadau deddfwriaethol ynghylch ieithoedd lleiafrifol mewn gwledydd eraill i ddarparu cyd-destun i ddatblygiad cynllunio ieithyddol a deddfwriaethol yng Nghymru.

 

Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith ar y meysydd uchod, bydd hefyd yn gobeithio trafod y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned, y rhwydweithiau cefnogol sydd yn eu lle a chamau i hyrwyddo’r iaith yn lleol fel rhan o’r ymchwiliad hwn.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2018

Ymgynghoriadau

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu