Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 443KB) Gweld
fel HTML (248KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant a Gareth Bennett. |
||
(09.15 - 10.15) |
Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – Academyddion Yr Athro Roberta Sonnino – Athro mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol,
Cyfarwyddwr Impact, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd Dr Helen Coulson – Cydymaith Ymchwil, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio,
Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd yr Athro Roberta Sonnino gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(10.15 - 11.15) |
Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – Hybu Cig Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Gwyn Howells – Prif Swyddog Gweithredol, Hybu Cig Cymru Andy Richardson – Cadeirydd, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd Gwyn Howells, Prif Swyddog Gweithredol Hybu Cig Cymru, ac Andy Richardson,
Cadeirydd Bwyd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, gwestiynau gan yr Aelodau. Cytunodd Andy Richardson i anfon copi o'r araith a roddodd yng nghynhadledd
Bwyd a Diod Cymru/ Llywodraeth Cymru, 'Buddsoddi mewn Sgiliau: Buddsoddi mewn Twf', at y Pwyllgor. |
|
Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – sesiwn dystiolaeth lafar ar gaffael bwyd – y Ffederasiwn Bwyd a Diod – gohiriwyd Tim Rycroft – Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, y
Ffederasiwn Bwyd a Diod Dogfennau ategol: |
||
(11.15 - 11.20) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch argymhelliad 21 yn adroddiad y Pwyllgor, 'Dyfodol rheoli tir yng Nghymru', sy'n ymwneud â chaffael bwyd gan gyrff cyhoeddus Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Bwyllgor Cymru y Conffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor) at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Reolwr Cymru y Conffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor), yn cynrychioli cwmnïau prosesu pren, at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cymru Coed Cadw ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch y papur gan Banel Asesu y DU Comisiwn y Byd ar Ardaloedd Gwarchodedig yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ar yr adroddiad, 'Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11.20 - 11.30) |
Ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru – trafodaeth breifat yn dilyn y sesiynau tystiolaeth lafar a thrafodaeth ar y camau nesaf Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth. |
|
(11.30 - 11.55) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd Cofnodion: Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf cyn holi cwestiynau ynghylch sawl
mater. |
|
(11.55 - 12.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid Hinsawdd Cofnodion: Gwrandawodd yr Aelodau ar y wybodaeth ddiweddaraf. |
|
(12.00 - 12.45) |
Sesiwn friffio breifat anffurfiol gan EDF Energy ar garthu a gollwng gwaddodion sy'n gysylltiedig â Hinkley Point C Cofnodion: Holodd yr Aelodau gwestiynau am gynigion EDF Energy i dynnu gwaddodion o
Fôr Hafren. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch sawl
mater a gododd yn ystod y cyflwyniad sy’n benodol i’r drwydded forol benodol
hon. |