Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai
hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd
Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. Nododd y Cadeirydd y
byddai angen i Suzy Davies AS adael y cyfarfod am 11am. |
|
(09.15-10.15) |
COVID-19: addysg statudol Luke Sibieta,
Cymrawd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a’r Sefydliad Polisi Addysg Yr Athro Chris
Taylor, Athro Addysg a Chyfarwyddwr Academaidd y Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
(SPARK) - Prifysgol Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David AS
fod gan ei ferch Anghenion Dysgu Ychwanegol. 2.2 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Luke Sibieta a’r
Athro Chris Taylor ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl
ifanc. 2.3 Cytunodd Luke Sibieta y byddai’n rhoi unrhyw
dystiolaeth ystadegol i’r Pwyllgor sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn
perthynas â phresenoldeb plant sy'n agored i niwed yn yr ysgol, gan gynnwys y
rheini ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y cyfnodau o gyfyngiadau symud,
ac a oedd profiadau wedi amrywio ledled Cymru. |
|
(10.30-11.30) |
COVID-19: addysg statudol Gareth Evans,
Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Yr Athro Dylan Jones, Dirprwy Is-Ganghellor a Deon
Gweithredol yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Evans a’r
Athro Dylan Jones ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl
ifanc. |
|
(11.30-11.35) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch atgyfeiriadau Diogelu a Phlant sy'n Derbyn Gofal Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rheoliadau cysylltiedig Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc yn dychwelyd i addysg Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 14 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr Llywodraeth Leol yn dilyn y cyfarfod ar 28 Ionawr 2021 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dilyn trafodion Cyfnod 2 Dogfennau ategol: |
||
(11.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.35-11.50) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(11.50-12.20) |
COVID-19: y diweddaraf ynghylch ymgysylltu â myfyrwyr prifysgol Cofnodion: 7.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ganfyddiadau'r
grwpiau ffocws rhithwir a gynhaliwyd gyda myfyrwyr. Cytunodd y Pwyllgor y
byddai'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i lywio'r sesiynau tystiolaeth gyda
chynrychiolwyr o addysg uwch ac addysg bellach. a drefnwyd ar gyfer 11 Mawrth
2021. |