Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/05/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.1 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd i ofyn a
oeddent yn fodlon â'r ffigurau a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg
GIG Cymru ynghylch costau rhedeg dwbl (PAC(5)-13-18 PTN6). |
|
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor Dogfennau ategol:
|
||
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (24 Ebrill 2018) Dogfennau ategol: |
||
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (9 Mai 2018) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.30) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: sesiwn dystiolaeth 3 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-13-18
Papur 1 – Llywodraeth Cymru Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru Alan Brace - Cyfarwyddwr Cyllid Frances Duffy – Cyfarwyddwr Gofal Cyntaf ac Arloesedd Rhidian Hurle - Prif Swyddog Gwybodaeth Clinigol /
Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Gwybodeg
y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr
Cyffredinol/Prif Weithredwr y GIG, Alan Brace a Frances Duffy o Lywodraeth
Cymru, ynghyd â Rhidian Hurle, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru, fel rhan
o'u hymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru. |
|
(15.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 5,
6 & 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.30 - 16.15) |
Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a'r materion allweddol Cofnodion: 5.1 Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(16.15 - 16.40) |
Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 6.1 Cyflwynodd Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru sesiwn friffio lafar
i'r Aelodau ynghylch yr ymchwiliad sydd ar y gweill i Raglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif. |
|
(16.40 - 17.00) |
Swyddfa Archwilio Cymru: rhaglen o astudiaethau gwerth am arian PAC(5)-13-18 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Archwilydd Cyffredinol gynnwys ei lythyr gyda'r Aelodau. |