Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (PDF 1MB) ar 25 Mai 2017.

 

Roedd yr Adroddiad yn trafod gwaith rheoli Llywodraeth Cymru o’i rhaglen Ysgolion ac Addysg o’r 21ain Ganrif. Cafodd y rhaglen fuddsoddi, a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei chyhoeddi yn 2009 a’i nod yw moderneiddio’r ystâd addysg a gwella cyflwr ac addasrwydd adeiladau ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod nifer o nodau addysgol a chymunedol ar gyfer y buddsoddiad. Caiff y rhaglen ei chyd-ariannu gyda Llywodraeth Cymru yn darparu grant ar gyfer 50% o gostau’r prosiect.

 

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar gam cyntaf y rhaglen o fis Ebrill 2014 i fis Mawrth 2019. Fodd bynnag, mae hefyd yn ystyried cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol ym Mand B y rhaglen o 2019-2024.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad a chynhaliodd ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018. Yn dilyn yr ymchwiliad, ysgrifennodd y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018 ac ystyriwyd yr ymateb yn nhymor yr hydref 2018. Ysgrifennodd y Cadeirydd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mai 2019 yn gofyn iddynt barhau i gadw golwg ar y rhaglen, ac at y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Model Cyd-fuddsoddi.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

Ymweliad i ysgolion lleol

 

21 Mai 2018

 

 

1.

WLGA

 

Dr Chris Llewelyn

11 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2.

Iestyn Davies – Colegau Cymru
Judith Evans – Coleg y Cymoedd
Guy Lacey – Coleg Gwent

11 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3.

Llywodraeth Cymru
Tracey Burke
Steve Davies
Melanie Godfrey

25 Mehefin 2018

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/05/2017

Dogfennau