Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod (PDF 561KB) Gweld fel HTML
(362KB) |
||
(14.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor ar 21 Mehefin, croesawodd y
Cadeirydd Vikki Howells i'r Pwyllgor a diolchodd i Mike Hedges am ei waith.
Fodd bynnag, roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Vikki Howells heddiw. |
|
(14.00 - 14.05) |
Papur(au) i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor, gan ei bod
yn bosibl y bydd y Pwyllgor plant yn dymuno gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
gan Lywodraeth Cymru yn ystod y sesiynau a drefnwyd i graffu ar waith y
Gweinidog. 2.3 Gofynnodd Mike Hedges AC i'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa o ran gweithgynhyrchu uwch
mewn perthynas â chwmni Kancoat. |
|
Consortia Addysg Rhanbarthol: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017) Dogfennau ategol: |
||
(14.05 - 15.45) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-18-17 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru PAC(5)-18-17 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru PAC(5)-18-17 Papur 3 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017) PAC(5)-18-17 Papur 4 – Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017) PAC(5)-18-17 Papur 4A – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru
(21 Mehefin 2017) PAC(5)-18-17 Papur 4B – Llythyr gan Lywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor
(23 Mehefin 2017) PAC(5)-18-17 Papur 4C – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru
(23 Mehefin 2017) James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac
Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Tracey Mayes - Pennaeth Llywodraethiant a Chydymffurfiaeth, Grŵp yr
Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth
ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun. 3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy
ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol,
Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio
Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd
gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru. 3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn: · Ysgrifennu at
y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r
cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu;
· Anfon y
canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu
ceisiadau grant; · Darparu
manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn
penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac · Ymchwilio i
bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys
mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd. |
|
(15.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitemau 5, 6 a 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.55 - 16.15) |
Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, a gwnaethant gytuno y
byddai adroddiad yn cael ei baratoi i'r Aelodau ei ystyried. |
|
(16.15 - 16.25) |
Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-18-17 Papur 5 – Gwybodaeth
ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru PAC(5)-18-17 Papur 6 – Llythyr drafft i’r Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol
Cymru, a gwnaethant gytuno ar y llythyr drafft a gaiff ei anfon at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. |
|
(16.25 - 17.00) |
Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-18-17 Papur 7 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Yn sgil cyfyngiadau amser, ni chafodd yr eitem hon ei thrafod. Fodd
bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau anfon unrhyw sylwadau yn deillio o'u hystyriaeth
gychwynnol o adroddiad y Pwyllgor i'r Clercod, a fydd yn aildrefnu'r eitem ar
gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |