Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r
wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebydd ac i ofyn ei farn ar y materion a
ganlyn:
o a ddylai cleifion ledled Cymru gael mynediad at Wasanaeth Cymorth
Meddyginiaethau Rhagnodedig. |
|
P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i: ·
geisio cadarnhad y bydd trefniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yn y dyfodol,
gan gynnwys cyllid, yn rhan o'r adolygiad o ymestyn hawliau a'r ymgynghoriad
cyhoeddus yn 2018; a ·
gofyn am gymhariaeth o faint o arian a ddyrennir i bob awdurdod lleol ar
gyfer gwaith ieuenctid drwy'r Asesiad Gwariant Safonol a faint o arian y mae
pob awdurdod yn ei wario ar waith ieuenctid. |
|
P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am: ·
gopi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i lythyr manwl gan
Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch statws Bagloriaeth
Cymru; a ·
chanfyddiadau'r adolygiad o Fagloriaeth Cymru sy'n cael ei gynnal gan Gymwysterau
Cymru; cyn ystyried
cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
·
ysgrifennu at Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ofyn eu barn ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb i lywio trafodaethau'r Pwyllgor. |
|
P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Tai ac Adfywio i rannu'r pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y
deisebydd a cheisio barn y Gweinidog ar y materion hyn, yn ogystal â gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion y Gweithgor Cysgu ar y Stryd pan fyddant
ar gael. |
|
Sesiwn dystiolaeth 1 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Tim Deere-Jones - Deisebydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae'n aelod o Gyngor Caerdydd. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tim Deere-Jones, y deisebydd. |
|
Sesiwn dystiolaeth 2 - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Chris Fayers, Pennaeth yr Amgylchedd, Adeiladau Newydd –
EDF Energy Pete Bryant, Arbenigwr Datgomisiynu a Chynghorydd ar
Wastraff Ymbelydrol – EDF Energy Stephen Roast, Arbenigwr Technegol Morol – EDF Energy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr EDF Energy. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Item
6. Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau y cynnig. |
|
Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion
morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger
Caerdydd Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiynau blaenorol, gan
gytuno i wahodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Cefas i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor
cyn gynted ag y bo modd yn y flwyddyn newydd. |