P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru
P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ken Ebihara, ar ôl casglu 54
o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod
awdurdodau lleol unigol yn dyrannu o leiaf 50 y cant o’u dyraniadau amcanol i
waith ieuenctid drwy’r ‘Grant Cynnal Refeniw’.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r
mater o p’un ai y dylid neilltuo symiau penodol o’r ‘Grant Cynnal Refeniw’ ar
gyfer gwaith ieuenctid ai peidio eisoes wedi’i nodi yn un o’r adroddiadau a
gyhoeddwyd gan y ‘Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg’ yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Mae’n ffaith bod yna fwlch rhwng y cyfraniadau ariannol gwirioneddol
i waith ieuenctid gan awdurdodau lleol unigol drwy’r Grant Cynnal Refeniw a’r
dyraniad amcanol ar gyfer y gwaith hwn.
Mae
hyn yn hanfodol i sicrhau a chynnal ansawdd y gwaith a wneir gyda phobl ifanc
yng Nghymru er mwyn iddynt gael cyfleoedd gwerthfawr i wella eu hunain mewn
amgylchedd cefnogol. Ni ddylai’r ffactor hanfodol hwn ddibynnu ar
benderfyniadau awdurdodau lleol yn unig, sy’n amrywio o un i’r llall oherwydd
eu blaenoriaethau o ran gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn fwy
rhagweithiol i sicrhau bod y lefel isaf yn cael ei chynnal o ran ansawdd y
gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru.
Mae
neilltuo rhannol yn atal awdurdodau lleol unigol rhag gostwng ymhellach lefel
yr adnoddau ariannol sy’n cael eu gwario ar waith ieuenctid, gan eu galluogi i
gynnal rhywfaint o annibyniaeth wrth flaenoriaethu eu gwariant yn unol â’u
blaenoriaethau unigol. Efallai mai’r syniad penodol hwn yw’r ateb mwyaf
realistig i’r mater.
Y ddeisebwr yn
gyflwyno’r ddeiseb i’r Pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/01/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r
wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a diolch iddo
am ei ymgysylltiad â'r broses ddeisebau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 05/12/2017.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Gwelliant
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/11/2017