Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd Sian Gwenllian ei hymddiheuriadau ar
gyfer cyfarfod heddiw; roedd Dai Lloyd yn bresennol yn ei lle. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ohirio pob busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth yfory ar
wahân i Gwestiynau Amserol. Dydd Mawrth ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. Dydd Mercher ·
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem
olaf o fusnes. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y newidiadau a wnaed gan y llywodraeth i amserlen busnes tair
wythnos y llywodraeth i ganolbwyntio ar drafodaethau ar coronafirws. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ohirio pob busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth ac eithrio
Cwestiynau Amserol am y tair wythnos nesaf o gyfarfodydd llawn. |
|
Dadl Aelod - Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Gan fod y
Rheolwyr Busnes wedi cytuno i ohirio pob busnes ar wahân i Gwestiynau Amserol,
ni fydd Dadl Aelod. |
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddent yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg i'w hysbysu y bydd y Bil yn cael ei gyfeirio atynt, ac y dylai ystyried
pa amserlen a allai fod yn bosibl o dan yr amgylchiadau presennol. |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil
Gwasanaethau Bysiau (Cymru) gyda 13 Gorffennaf 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer
adrodd ar Gyfnod 1 a 16 Hydref 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar Gyfnod
2. Nododd y Rheolwyr Busnes y tebygolrwydd uchel y byddai angen i'r amserlen
hon newid hefyd. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Yn amodol ar gyfarwyddyd cyffredinol i
bwyllgorau ganolbwyntio ar fusnes hanfodol, cytunodd y Rheolwyr Busnes y
gallai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gwrdd y tu allan
i'w slot arferol i hwyluso tystiolaeth gan Weinidogion. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i'r adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog. Cytunwyd hefyd
i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu ar gyfer cynnig i gytuno ar y newidiadau i'r
Rheolau Sefydlog yfory, gyda’r newidiadau yn dod i rym ddydd Mercher 6 Mai
2020. |
|
Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylai'r pwyllgorau, am y dyfodol, ganolbwyntio ar fusnes hanfodol.
Cytunwyd hefyd y dylai'r Pwyllgor Busnes gwrdd eto yfory i ystyried opsiynau ar
gyfer trefnu ac amserlennu busnes dros yr wythnosau nesaf. |