Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd y Trefnydd ei hymddiheuriadau, roedd
y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn bresennol yn ei lle. Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau ac
roedd Russell George yn bresennol yn ei le. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynigiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
y dylai'r Cyfarfod Llawn ddechrau am 1pm ddydd Mawrth, yng ngoleuni'r busnes
swmpus ac, yn benodol, hyd tebygol dadl Cyfnod 3. Cytunodd y Rheolwyr Busnes
i'r cynnig hwn. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad
yw'n credu y dylai'r Cyfarfod Llawn eistedd lawer yn hwyrach na 10pm. Esboniodd
y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mai bwriad y llywodraeth, pe na bai Cyfnod 3
yn cael ei gwblhau ddydd Mawrth, yw symud cynnig gweithdrefnol i ohirio
gweddill yr eitem tan ar ôl cwestiynau llafar ddydd Mercher. Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes
hefyd y bydd egwyl o 10 munud cyn i Gyfnod 3 ddechrau ac yna egwyl arall am
gyfnod hirach o amser rywbryd ar ôl 7.30, yn dibynnu ar gynnydd. Dywedodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn gresynu
y byddai'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar Ddiwrnod
Rhyngwladol y Menywod yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig a
gofynnodd a ellid aildrefnu'r datganiad i ddiwrnod arall. Nodwyd hefyd nad oedd
parhau â chyfarfodydd hwyr fel hyn yn gynaliadwy i'r rheini sydd â
chyfrifoldebau gofalu Dydd
Mawrth
Dydd
Mercher
|
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau
o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 22 Ebrill 2020 –
|
|
Busnes y Cynulliad |
|
Senedd Clwyd Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr amserlen amlinellol arfaethedig ar gyfer yr wythnos yn
cychwyn ar 8 Mehefin, sy'n gyson ag amserlenni arferol y pwyllgorau a'r
Cynulliad, y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes. Cytunwyd hefyd i gynnal y
gymhareb arferol o fusnes y llywodraeth a busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth ar
gyfer y ddau Gyfarfod Llawn, ar 9 a 10 Mehefin. Trafododd
y Rheolwyr Busnes opsiynau ar gyfer y mathau o fusnes, nad yw'n fusnes y
llywodraeth, a gaiff ei amserlennu yn ystod y ddau Gyfarfod Llawn a gaiff eu
cynnal yng ngogledd Cymru ar 9 a 10 Mehefin a chytunwyd i:
|
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Cwestiynau Gofynnodd
y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes ddweud wrth yr Aelodau i beidio â dyfynnu o
ohebiaeth yn ystod cwestiynau, gan fod hyn yn gwneud cyfraniadau yn rhy hir.
Dylai'r aelodau fod yn gofyn cwestiynau, yn hytrach na gwneud areithiau. Coronafirws Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Comisiwn yn ystyried papur ar
Coronafirws yr wythnos nesaf. |