Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Anfonodd Sian Gwenllian ei hymddiheuriadau;
Roedd Dai Lloyd yn bresennol yn ei lle. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod
ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd fod disgwyl i'r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gymryd rhan mewn cyfarfod COBRA brynhawn
dydd Mercher, a gofynnodd a fyddai'r Rheolwyr Busnes yn cytuno i aildrefnu
busnes fel y cynhelir dadl y Ceidwadwyr yn syth ar ôl y cwestiynau llafar am
3pm. Byddai hynny'n galluogi'r Gweinidog i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr a
chymryd rhan yng nghyfarfod COBRA. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i aildrefnu
busnes yn unol â hynny. Dydd Mawrth
Dydd Mercher
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Dosbarthodd y Trefnydd gopi diwygiedig o'r
amserlen: Dydd Mawrth 25 Chwefror 2020 -
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020 - ·
Dadl:
Cynnydd ar Fynd i'r Afael â Throseddau Casineb (60 munud) |
|
Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn
busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr
amserlen: Dydd
Mercher 11 Mawrth 2020 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cofnodion: |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a chytuno
ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
gyda 22 Mai 2020 yn ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 1 a 16 Gorffennaf
2020 fel dyddiad cau ar gyfer adrodd ar gyfer Cam 2. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn
bwriadu cyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol ychydig cyn toriad yr haf. Gan
fod y Rheolwyr Busnes am leihau'r pwysau amserlennu ar y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, cytunwyd i ysgrifennu at y pwyllgor hwnnw ac at
y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y llythyr a
chytunwyd i drefnu dadl ar y ddeiseb. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y cais a
chytunwyd i gais y Pwyllgor i ymweld â Chaeredin ddydd Llun 23 Mawrth. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Pleidleisio drwy ddirprwy Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytuno
ar y Rheol Sefydlog ddrafft a'r canllawiau cysylltiedig. Cytunwyd hefyd na
ellid bwrw pleidlais drwy ddirprwy mewn pleidleisiau sy'n ei gwneud yn ofynnol
i Aelodau sy'n cynrychioli dwy ran o dair o seddi'r Cynulliad bleidleisio o
blaid y cynnig. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno
adroddiad drafft ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i'r Pwyllgor Busnes yr
wythnos ar ôl hanner tymor. |
|
Newidiadau i’r Rheolau Sefydlog sy'n deillio o newid enw'r sefydliad Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur
gyda'u grwpiau a dychwelyd at y papur yn y cyfarfod cyntaf ar ôl y toriad hanner
tymor. |
|
Busnes y Cynulliad |
|
Senedd Clwyd Cofnodion: Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a
chytunwyd i drafod â'u grwpiau a chynrychiolwyr y Comisiwn i ganfod a oes awydd
i ymestyn yr amserlen arfaethedig i gynnwys dydd Iau, a/neu newid yr amseroedd
a ddyrennir ar gyfer y cyfarfod llawn. Bydd y Rheolwyr Busnes yn dychwelyd at y
papur ar ôl hanner tymor. |