Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 257(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5
eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.21 Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 5
gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn 15.09 Cododd Mandy Jones bwynt o
drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(iv) a 13.9(v) ynghylch iaith a ddefnyddiwyd yn
ystod trafodion yr wythnos ddiwethaf. Cytunodd y Llywydd i adolygu’r cofnod a
dychwelyd at y mater os oes angen. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y
mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag
coronafeirws? (TAQ387) Leanne Wood
(Rhondda): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw
am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff
gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? (TAQ386) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.10 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i
amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws? Leanne Wood (Rhondda):
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am
wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff
gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.46 Gwnaeth Lynne Neagle ddatganiad yn
dathlu llwyddiannau enillwyr y Gwobr Tiwtoriaid y Sefydliad Dysgu a Gwaith;
Ysbrydoli! ar 22 Ionawr 2020made a statement celebrating the achievements of
the winners of the Learning and Work Institute’s Inspire! Tutor Awards on 22
January 2020 Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am
lwyddiant Treorci yng nghystadleuaeth Stryd Fawr y Fwyddyn y DU Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad am
enwebu Chwareli Llechi Gwynedd fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i addasu enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol NDM7242 Elin
Jones (Ceredigion) Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid enw a chylch gwaith y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, i’r canlynol: a) Y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; b) i gyflawni
swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac i ystyried
unrhyw fater arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu sy'n ymwneud â’r
cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys ansawdd y ddeddfwriaeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7242 Elin Jones (Ceredigion) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid
enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, i’r
canlynol: a)
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; b)
i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac i
ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r
cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu sy'n
ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys ansawdd y ddeddfwriaeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig I Ethol Aelod I Gomisiwn Y Cynulliad (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.54 NDM7261 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) fel aelod o
Gomisiwn y Cynulliad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pobl Cymru
wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar
23 Mehefin 2016. 2. Yn credu y dylid
rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser. 3. Yn cydnabod y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020. 4. Yn cydnabod y
manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb
Ewropeaidd, gan gynnwys: a) llunio cytundebau
masnach rydd newydd; b) creu system
fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant
ddod; c) sefydlu dull newydd
o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas
Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi bod pobl
Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a
gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas
Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020. 2. Yn cydnabod bod buddion
yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn credu y gall yr
heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod
felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn
llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb
gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran
tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth
y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU. 4. Yn cefnogi’r
cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a
fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad
unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i
godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd. Deddf
yr UE (Y Cytundeb Ymadael) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.55 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi
pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23
Mehefin 2016. 2. Yn credu y dylid rhoi
canlyniad refferenda ar waith bob amser. 3. Yn cydnabod y bydd Cymru,
ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar
31 Ionawr 2020. 4. Yn cydnabod y manteision
posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan
gynnwys: a) llunio cytundebau masnach
rydd newydd; b) creu system fewnfudo decach
nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod; c) sefydlu dull newydd o ymdrin
â buddsoddi rhanbarthol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr
Undeb Ewropeaidd.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020. 2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o
ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol
i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn
sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau
Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau
datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac
yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb
Ymadael) yn Senedd y DU. 4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod
yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n
gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r
Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7241 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r
Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd
Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am
23.00 ar 31 Ionawr 2020. 2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o
ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol
i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn
sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau
Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau
datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac
yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y
Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU. 4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth
Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan
sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n
gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r
Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Perfformiad y GIG NDM7244 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r ystadegau
perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i
gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a
gwasanaethau. 2. Yn gresynu at
ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf
ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a
sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau. 3. Yn credu y dylid
llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan
amgylchiadau anodd. 4. Yn credu y gellir
cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond: a) os caiff
gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw
gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG; b) os ceir buddsoddiad
sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch; c) os ceir gwelliannau
i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a
chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu bod rhai o
fyrddau iechyd Cymru yn gohirio recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n
gwaethygu perfformiad gwael a phwysau ar staff rheng flaen. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod effaith
degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu
gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu
mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y
tymor hir: a) os bydd y GIG a
gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal; b) os bydd buddsoddi
yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r
ysbyty; c) drwy barhau â’r
ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant,
gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar
y cyd. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 4 (a) dileu
', ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n
ddigonol ar draul y GIG'. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: 'os caiff y rhwystrau
artiffisial rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu dileu.' Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyfleoedd
i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal
cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn
grant bloc Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar
gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad
ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau. 2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd
wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl
cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a
oedd wedi'u cynllunio yn parhau. 3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal
cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd. 4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn
y tymor hir dim ond: a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un
parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u
hariannu'n ddigonol ar draul y GIG; b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau
sy'n atal salwch; c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r
gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal
cymdeithasol.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio
recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau
ar staff rheng flaen. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant
1. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU
ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys
iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y
gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir: a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel
partneriaid cyfartal; b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i
helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty; c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein
gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar
gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant
2. Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3
a 4 eu dad-ddethol. Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol
yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu
perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant
5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r ystadegau
perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i
gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a
gwasanaethau. 2. Yn gresynu at ganslo
llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn
credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau
bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau. 3. Yn credu y dylid llongyfarch
staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd. 4. Yn
cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar
gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol,
ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn
y GIG yn y tymor hir: a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel
partneriaid cyfartal; b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i
helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty; c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu
iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. 5. Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau
ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu
perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Blaid Brexit - Pysgodfeydd NDM7243 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru. 2. Yn croesawu'r
ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn
gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran
pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau
arfordirol Cymru. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er
mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2. [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod
pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd
môr Cymru ac yn ceisio sicrhau bod y farchnad hon yn parhau i fod ar agor ac yn
hawdd cael gafael arni yn y dyfodol. Yn galw ar fil
pysgodfeydd arfaethedig Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth y DU ac
unrhyw ddeddfwriaeth ddatganoledig yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n
wirioneddol gynaliadwy ac atebol ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd
morol ac yn cefnogi cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y byddwn,
ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn
wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd
ym mis Rhagfyr 2020. Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU
drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau
arfordirol. Gwelliant 6 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o
'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol
i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7243 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
hanesyddol pysgodfeydd i Gymru. 2. Yn croesawu'r ffaith y bydd
y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru
wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans
(Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i
ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant 4 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y
Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol,
gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant
4. Gwelliant 5 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r
cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a
chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant
5. Gwelliant 6 - Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth
bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy
mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru
gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i
ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i
gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.55 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer NDM7245 Rhianon
Passmore (Islwyn) Cymru a'r economi
ddiwylliannol: manteision economaidd y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau
mewn Cymru greadigol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.02 NDM7245 Rhianon Passmore (Islwyn) Cymru a'r economi
ddiwylliannol: manteision economaidd y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau
mewn Cymru greadigol. |