Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 220(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Tynnwyd
cwestiwn 1 yn ôl. Gofynnwyd cwestiynau 2-10. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4-5 a 7-9. Tynnwyd cwestiynnau 3 a 6 yn ôl. Atebwyd
cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Gwnaeth Huw Irranca-Davies
ddatganiad am bythefnos y Cwmnïau Cydweithredol, sy’n digwydd rhwng 24 Mehefin
a 7 Gorffennaf. Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad am 50 mlynedd ers gwneud Abertawe yn ddinas. Gwnaeth John Griffiths
ddatganiad yn dathlu Gŵyl Maendy (6 Gorffennaf), sef gorymdaith
aml-ddiwylliannol a diwrnod cyfan o ddathlu diwylliant amrywiol, gan gynnwys
cerddoriaeth, dawns, bwyd a diod sy’n gyfle i ddwyn gwahanol gymunedau at ei
gilydd a dileu rhwystrau. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd NDM7102 Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) sefydlu corff
proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol
craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant
cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu
datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am
berfformiad gwael neu anniogel; b) sicrhau gwir
annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; c) gosod dyletswydd
gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol
gan gynnwys rheolwyr; a d) sefydlu system
gwyno ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7102 Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd. 2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai: a) sefydlu corff
proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol
craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant
cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu
datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am
berfformiad gwael neu anniogel; b) sicrhau gwir
annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru; c) gosod dyletswydd
gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol
gan gynnwys rheolwyr; a d) sefydlu system gwyno
ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Am
15.36, gyda chaniatâd y Dirprwy Lywydd, gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth ddatganiad byr heb rybudd am y ddamwain angheuol yn gynharach
heddiw, pan fu farw dau weithiwr rheilffordd ar ôl cael eu taro gan drên yn
cludo teithwyr rhwng gorsaf Parkway Port Talbot a gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr. Ni
wahoddodd y Dirprwy Lywydd unrhyw Aelodau i ofyn cwestiynau am y datganiad. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol NDM7108 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Datblygu
Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 2 Mai 2019. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 12 Mehefin 2019. Gosodwyd ymateb Trafnidiaeth
Cymru ar 17 Mehefin 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 NDM7108 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Datblygu Trafnidiaeth Cymru
yn y dyfodol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mai 2019. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Mehefin
2019. Gosodwyd ymateb Trafnidiaeth Cymru ar 17 Mehefin
2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru NDM7112 Lynne
Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster
Bagloriaeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 3 Ebrill 2019. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 26 Mehefin 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.27 NDM7112 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Bagloriaeth y Dyfodol:
Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd
Hefin David bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.10. Nid oedd o’r farn bod
Michelle Brown wedi tynnu ei datganiad yn ôl pan ofynnodd y Dirprwy Lywydd iddi
wneud hynny. Roedd hefyd yn pryderu nad oedd cyfraniad Michelle Brown yn
adlewyrchu barn y Pwyllgor, ac nad oedd yr Aelod yn gwrando pan oedd Cadeirydd
y Pwyllgor yn ymateb i’w phwyntiau. Dywedodd
y Dirprwy Lywydd fod pryderon yr Aelod wedi’u cofnodi, a bod gan Aelodau hawl i
ddefnyddio eu hamser yn ystod dadleuon i wneud cyfraniadau fel y maent yn tybio
sydd orau. Dywedodd y Dirprwy Lywydd hefyd nad oedd am ddechrau galw Aelodau i
drefn pan nad ydynt yn gwrando. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Colli Golwg NDM7110 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod 111,000 o bobl
yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg; b) y rhagwelir y bydd
nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn
dyblu erbyn 2050. 2. Yn croesawu
cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. 3. Yn gresynu bod 1 o
bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy
na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol: a) bod yn gadarn wrth
ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros
gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith; b) datblygu cynllun
gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti
mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol; c) gwella'r broses o
gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi
colli eu golwg; d) cyhoeddi amserlen,
ar frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal
llygaid yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl
is-bwynt 4a a rhoi yn ei le: bwrw ymlaen â
chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector
gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o
gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y
dyfodol; gwella'r broses o
gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi
colli eu golwg; parhau i fwrw ymlaen
â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn
olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid
trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf. Cynllun
cyflawni ar gyfer gofal iechyd llygaid 2013 i 2018 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.21 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7110 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod 111,000 o bobl yng
Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg; b) y rhagwelir y bydd
nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn
dyblu erbyn 2050. 2. Yn croesawu cyflwyno
mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid. 3. Yn gresynu bod 1 o bob
3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u
targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol: a) bod yn gadarn wrth
ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros
gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith; b) datblygu cynllun
gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti mewn
clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol; c) gwella'r broses o
gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi
colli eu golwg; d) cyhoeddi amserlen, ar
frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal
llygaid yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant1
- Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth ar ôl
is-bwynt 4a a rhoi yn ei le: bwrw ymlaen â chyhoeddi a
gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal
llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti
mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol; gwella'r broses o gasglu,
dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu
golwg; parhau i fwrw ymlaen â’r
gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn
olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid
trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM7110 Darren Millar
(Clwyd West) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod 111,000 o bobl yng
Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg; b) y rhagwelir y bydd
nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn
dyblu erbyn 2050.2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer
cleifion gofal llygaid. 3. Yn gresynu bod 1 o bob
3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u
targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud y canlynol: a) bod yn gadarn wrth
ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros
gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith; b) bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun
gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi
Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i
ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol; c) gwella'r broses o
gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi
colli eu golwg; d) parhau i fwrw ymlaen â’r
gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn
olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid
trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - UI uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth NDM7111 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r gefnogaeth
drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o
gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth. 2. Yn cydnabod bod
llwyddiant y strategaeth yn ddibynnol, yn rhannol, ar: a) creu mwy o
gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn
ogystal ag yn y gymuned; b) argyhoeddi busnesau
bod mantais fasnachol o ran hyrwyddo hunaniaeth ddwyieithog; c) sicrhau cydbwysedd
a hyblygrwydd rhwng camau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gyflawni hyn, a
chydnabod bod 99 y cant o fentrau Cymru yn fusnesau micro, bach, neu ganolig o
ran maint; d) nodi a darparu
gwerth am arian drwy gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn hytrach na
chyflwyno gofynion nad ydynt yn cyflawni hyn ac nad ydynt yn cael eu hystyried
yn flaenoriaeth gan siaradwyr Cymraeg. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad drwy ddatganiadau
llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn diwedd 2019 ar
effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i fusnesau, ar wahân i
waith Comisiynydd y Gymraeg. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg i hybu
defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu maint. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg ymhellach o ran
caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau siaradwyr Cymraeg a'r rhai
nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri eu hawliau iaith. Cymraeg
2050: strategaeth iaith Gymraeg Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 2 – 6 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod bod tair
elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o
siaradwyr Cymraeg, sef: a) cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu
Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; b) cynyddu’r defnydd
dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned; c) darparu seilwaith
cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol,
a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y
meysydd a ganlyn: a) cynyddu nifer y
Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar
eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg; b) symud o asesu’r
galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg; c) lansio Cynllun
Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y
Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg; d) cyllido’r Ganolfan
Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er
mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y
sector prentisiaethau; e) darparu bron £60
miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer
ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a
Llangrannog; f) cyllido 14 Swyddog
Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i
ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi
gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i
ddarparu cyfieithiadau cryno; Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu
Cymru fel cenedl ddwyieithog agored. Cynllun
gweithredu technoleg Cymraeg [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod bod
gweithredu dyhead y strategaeth yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu
ymarferol bwriadus ym mhob maes, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, datblygu
economaidd, datblygu cymunedol, statws ac isadeiledd y Gymraeg, y gweithle, a’r
teulu. Gwelliant 3 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 6 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno a gweithredu amserlen i ganiatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod
safonau’r Gymraeg ac ehangu hawliau i ddefnyddio’r iaith ym maes cymdeithasau
tai, dŵr, gwasanaethau post, trafnidiaeth, ynni, telathrebu ynghyd ag
ychwanegu cyrff newydd at reoliadau a basiwyd eisoes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7111 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y
strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn
cenhedlaeth. 2. Yn cydnabod bod llwyddiant y strategaeth yn ddibynnol, yn rhannol, ar: a) creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg
yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned; b) argyhoeddi busnesau bod mantais fasnachol o ran hyrwyddo hunaniaeth
ddwyieithog; c) sicrhau cydbwysedd a hyblygrwydd rhwng camau deddfwriaethol ac
anneddfwriaethol i gyflawni hyn, a chydnabod bod 99 y cant o fentrau Cymru yn
fusnesau micro, bach, neu ganolig o ran maint; d) nodi a darparu gwerth am arian drwy gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y
gweithle yn hytrach na chyflwyno gofynion nad ydynt yn cyflawni hyn ac nad
ydynt yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan siaradwyr Cymraeg. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn
perthynas â Cymraeg 2050. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn
diwedd 2019 ar effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i
fusnesau, ar wahân i waith Comisiynydd y Gymraeg. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes
Cymraeg i hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu
maint. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y
Gymraeg ymhellach o ran caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau
siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri
eu hawliau iaith.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 2 – 6 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod bod tair elfen
i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr
Cymraeg, sef: a) cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu
Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; b) cynyddu’r defnydd
dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned; c) darparu seilwaith
cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol,
a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y
meysydd a ganlyn: a) cynyddu nifer y
Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar
eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg; b) symud o asesu’r galw
am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg; c) lansio Cynllun
Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg
ar gael yn hawdd ym maes technoleg; d) cyllido’r Ganolfan
Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er
mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y
sector prentisiaethau; e) darparu bron £60
miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer
ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a
Llangrannog; f) cyllido 14 Swyddog
Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i
ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi
gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i
ddarparu cyfieithiadau cryno; Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y
Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu
Cymru fel cenedl ddwyieithog agored. Cynllun
gweithredu technoleg Cymraeg Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a eu dad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7111 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y
strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn
cenhedlaeth. 2. Yn cydnabod bod tair
elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o
siaradwyr Cymraeg, sef: a) cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu
Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; b) cynyddu’r defnydd
dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned; c) darparu seilwaith
cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol,
a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd. 3. Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y
meysydd a ganlyn: a) cynyddu nifer y
Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar
eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg; b) symud o asesu’r galw
am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y
siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg; c) lansio Cynllun
Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y
Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg; d) cyllido’r Ganolfan
Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er
mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y
sector prentisiaethau; e) darparu bron £60
miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer
ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a
Llangrannog; f) cyllido 14 Swyddog
Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i
ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi
gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i
ddarparu cyfieithiadau cryno; 4. Yn dathlu bod
Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd
Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel
cenedl ddwyieithog agored.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.20 |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7067 Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Camau at Wleidyddiaeth
Garedicach: Cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.24 NDM7067 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Camau at Wleidyddiaeth Garedicach: Cynllun ar gyfer creu
cymunedau caredicach ledled Cymru |
|||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |