Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 208(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/05/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Dywedodd y Llywydd
wrth yr Aelodau ei bod wedi cael ei hysbysu o dan Reol Sefydlog 1.3 bod pedwar
Aelod Cynulliad wedi ffurfio grŵp newydd, ac y byddai’n ystyried ei
chyfrifoldebau o dan y Rheolau Sefydlog ac yn hysbysu’r Cynulliad o’i
chasgliadau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Cododd Alun Davies
bwynt o drefn, yn gofyn i’r Llywydd ystyried ei disgresiwn o dan Reol Sefydlog
1.4 wrth benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i
grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn. Nododd yr
Aelod, gan fod y pedwar Aelod Cynulliad o dan sylw wedi sefyll i’w hethol o dan
blaid wleidyddol wahanol, bod eu grwpio newydd yn tanseilio democratiaeth y
Cynulliad. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei bwynt o drefn, a nododd y bydd y
Rheolau Sefydlog yn sail i’w hystyriaethau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.32 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 7 a 9 - 10. Cafodd cwestiynau 4 a 10 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Cafodd
cwestiwn 8 ei dynnu yn ôl, er i’r Llywydd nodi bod yr Aelod yn y Siambr i allu
gofyn y cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth David Rees (Aberafon): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r
cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y
cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach
ar y cyd-fenter yn cael ei hatal? Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Ymhellach i'r datganiad ysgrifenedig ddoe,
a wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gamgymeriad CThEM parthed cyfraddau
treth incwm yng Nghymru? Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng ngoleuni'r sylwadau a
wnaed heddiw gan Rhodri Williams CF yn disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un
ddi-rym? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.09 Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth David
Rees (Aberafon): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad
nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng
Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y
cyd-fenter yn cael ei hatal? Gofyn
i’r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): Ymhellach i'r datganiad ysgrifenedig ddoe, a wnaiff y
Gweinidog roi diweddariad am gamgymeriad CThEM parthed cyfraddau treth incwm
yng Nghymru? Gofyn
i’r Dirprwy Weinidog a Prif Chwip Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed heddiw gan
Rhodri Williams CF yn disgrifio'r ddeddfwriaeth fel un ddi-rym? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.04 Gwnaeth Dai Lloyd
ddatganiad am - Codi’r mater o glefyd Seliag yn ystod wythnos ymwybyddiaeth
seliag. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cynnal Hyder yn y Weithdrefn Safonau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.06 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon NDM7020
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig am
fil cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. 2. Yn nodi mai diben y
bil hwn fydd: a) hybu'r defnydd o
gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau
allyriadau carbon; a b) gosod dyletswydd ar
Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at
ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng
Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.13 NDM7020 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig am fil
cerbydau cyhoeddus di-allyriad carbon. 2. Yn nodi mai diben y
bil hwn fydd: a) hybu'r defnydd o
gerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yng Nghymru er mwyn helpu i leihau
allyriadau carbon; a b) gosod dyletswydd ar
Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i lunio strategaeth i symud tuag at
ddefnyddio cerbydau trydan neu gerbydau di-allyriadau yn y fflyd gyhoeddus yng
Nghymru. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Prydau Ysgol Iach NDM7002
Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gall
prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad
cadarnhaol disgyblion. 2. Yn nodi bod
adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng
Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw
nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n
iach mewn ysgolion a gynhelir. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) egluro ai
cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw
safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael
eu monitro; a b) amlinellu pa gamau
sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei
gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol. 'Siarter
Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi' Bwyta’n
iach mewn ysgolion a gynhelir: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff
llywodraethu' Cyd-gyflwynwyr Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cefnogwyr Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 NDM7002 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gall
prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac
ymddygiad cadarnhaol disgyblion. 2. Yn nodi bod adroddiad
y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag
Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o
ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion
a gynhelir. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) egluro ai cyfrifoldeb
llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau
prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu
monitro; a b) amlinellu pa gamau
sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei
gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr NDM7050
Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mwy na
21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n
darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau. 2. Yn pryderu'n fawr
fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn sylweddol is na'u
cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg,
cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion cymorth oedolion ifanc
sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran addysg,
hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys: a) canfod gofalwyr
ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn rhwydd a lleihau'r
tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg; b) cyflwyno'r cerdyn
adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol
i roi'r cerdyn ar waith; c) codi ymwybyddiaeth
awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen cymorth arnynt; a d) helpu gofalwyr
ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy gyflwyno cynllun teithio
rhatach. Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym mhwynt 3b, dileu
“ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith” a rhoi yn ei
le “a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith” Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: 'sicrhau bod
darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe. ' Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7050 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng
Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a
ffrindiau. 2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr
yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â
bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion
cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu
hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys: a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn
rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg; b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol ynghyd â
dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith; c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf
Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen
cymorth arnynt; a d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy
gyflwyno cynllun teithio rhatach.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 3b, dileu
“ynghyd â dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi'r cerdyn ar waith” a rhoi yn ei
le “a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith” Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 3: 'sicrhau bod darpariaeth
gofal seibiant yn gwella er mwyn i ofalwyr ifanc allu cael hoe. ' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7050 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod mwy na 21,000 o oedolion ifanc rhwng 14 a 25 oed yng
Nghymru yn ofalwyr ifanc sy'n darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd a
ffrindiau. 2. Yn pryderu'n fawr fod cyrhaeddiad addysgol oedolion ifanc sy'n ofalwyr
yn sylweddol is na'u cyfoedion a'u bod dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â
bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar fyrder ag anghenion
cymorth oedolion ifanc sy'n ofalwyr, yn ogystal â'r rhwystrau y maent yn eu
hwynebu o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, gan gynnwys: a) canfod gofalwyr ifanc yn gynnar er mwyn eu helpu i gael cymorth yn
rhwydd a lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn ymddieithrio o addysg; b) cyflwyno'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn genedlaethol a gweithio gydag awdurdodau lleol i roi’r cerdyn ar waith; c) codi ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf
Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i hybu lles gofalwyr y mae angen
cymorth arnynt; d) helpu gofalwyr ifanc i fanteisio ar addysg ôl-16, gan gynnwys drwy
gyflwyno cynllun teithio rhatach; a e) sicrhau bod darpariaeth gofal seibiant yn gwella er mwyn
i ofalwyr ifanc allu cael hoe.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7051
Lynne Neagle (Torfaen)
Dysgu hirach ar gyfer
bywydau gwell, diogelach: yr achos dros godi oedran cyfranogi mewn addysg yng
Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.08 NDM7051 Lynne Neagle (Torfaen) Dysgu hirach ar gyfer bywydau gwell, diogelach: yr achos
dros godi oedran cyfranogi mewn addysg yng Nghymru |