Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 92(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2 a 4–8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.18 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2 a 4–7. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru):
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd Ford
ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.05 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cyhoeddiad y bydd Ford
ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn colli contractau gyda Jaguar Land Rover ar ôl 2020? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.19 Gwnaeth
Elin Jones ddatganiad i dalu teyrnged i’r artist diweddar Aneurin Jones. Gwnaeth
Suzy Davies ddatganiad ar gynnig Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021,
sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Gwnaeth
Julie Morgan ddatganiad ar gerflun o Mahatma Gandhi a ddadorchuddiwyd ym Mae
Caerdydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor – Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.24 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6509 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) David
Melding (Canol De Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r
21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a
nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 2.
Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y
Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun
peilot cyfrifon carbon personol yng Nghymru. 'Paris Accord of the
21st Conference of the Parties ('Paris Agreement')' (Saesneg yn unig) 'Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015' 'Deddf Llywodraeth
Cymru 1998' (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.54 NDM6509 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) David
Melding (Canol De Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen i liniaru cynhesu byd eang a chefnogi cytundeb Paris o'r
21ain gynhadledd o'r partïon ('Cytundeb Paris') drwy dorri allyriadau carbon a
nodi bod hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 2.
Yn nodi bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori yng ngwaith y
Cynulliad gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil pellach i ddichonoldeb cynllun peilot
cyfrifon carbon personol yng Nghymru. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu 'Gwireddu'r Uchelgais – Ymchwiliad i Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' NDM6518 Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei 'Ymchwiliad i
Strategaeth Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017. Nodyn:
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 11 Gorffennaf 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 NDM6518 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei 'Ymchwiliad i Strategaeth
Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mai 2017. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri
risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel. 2.
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu
effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd
proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau. 2.
Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu gofal iechyd tosturiol o
safon uchel. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau perthnasol i sicrhau bod
cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod prinder
meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i
ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel. 2. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar
gyfer GIG Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a
gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau. 2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu
gofal iechyd tosturiol o safon uchel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau
perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6520 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r effaith y gall prinder meddygon, nyrsys a
gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ei chael ar ddarparu gwasanaethau. 2. Yn croesawu ymrwymiad holl staff GIG Cymru i ddarparu
gofal iechyd tosturiol o safon uchel. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â sectorau
perthnasol i sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn digwydd mewn modd cydlynol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6519 Lee
Waters (Llanelli) M4
sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.59 NDM6519
Lee Waters (Llanelli) M4
sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol |