Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 40(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys 1

Dechreuodd yr eitem am 15.02

I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig?

Cwestiwn Brys 2

Dechreuodd yr eitem am 15.07

I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4?

Pwynt o Drefn

Dechreuodd yr eitem am 15.12

Gofynnodd Huw Irranca-Davies, ag yntau’n Aelod newydd, am eglurhad ynglŷn â’r rheolau ar gyfer cwestiynau brys a’r hyn sy’n eu gwneud yn rhai ‘brys’. Atebodd y Dirprwy Lywydd mai mater i’r Llywydd yw dod i farn wrthrychol ynglŷn â’r hyn sydd o bwysigrwydd brys i’r cyhoedd, ac y gallai fod mwy o frys o ran rhoi cyfle i Aelodau graffu yn y cyfarfod olaf cyn y toriad, fel heddiw

(5 munud)

3.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.13

 

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Guto Nyth Bran: Cofio am y dyn a dathlu ei gamp bob blwyddyn ar 31 Rhagfyr.

 

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar ‘Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau’, sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os bydd pobl yn amau eu bod yn cael eu sgamio.

 

Gwnaeth Elin Jones ddatganiad ar y Nadolig yn Aberteifi.

(30 munud)

4.

Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Hawliau Dynol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

(60 munud)

5.

Dadl Plaid Cymru

NDM6190 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

NDM6190 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6188 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.

2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.

'Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr - y DU'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
 
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod hyn o ganlyniad i 16 mlynedd o bolisïau addysg annigonol Llafur.

Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.

Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6188 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.

2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod hyn o ganlyniad i 16 mlynedd o bolisïau addysg annigonol Llafur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

26

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.

Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6188 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.

2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.

3. Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.

4. Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.

5. Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

6

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Datganiad gan y Llywydd

Gwnaeth y Llywydd ddatganiad ynglŷn â’r pwynt o drefn a gafwyd yn gynharach, gan hysbysu’r Aelodau y bydd y Pwyllgor Busnes yn ystyried ein gweithdrefnau ar gyfer cwestiynau ar faterion brys ac amserol yn y Flwyddyn Newydd.

Cwestiwn Brys 3

Dechreuodd yr eitem am 17.33

I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw?

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.44

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

8.

Dadl Fer

NDM6189 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
 
Pam mae angen cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

NDM6189 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Pam mae angen cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru