Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 329(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r
Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a
10. Tynnwyd cwestiynau 7 a 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gwnaeth Huw
Irranca-Davies ddatganiad am: Nodi genedigaeth Robert Owen
250 mlynedd yn ôl (nodi ei gyfraniad i'r delfrydau cydweithredol a hawliau gweithwyr
a mwy) (ganwyd ar 14 Mai 1771). Gwnaeth Russell
George ddatganiad am: Nodi 20 mlynedd o Ambiwlans
Awyr Cymru (lansiwyd ar 1 Mawrth 2001). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diabetes math 2 NDM7552 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau
uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000
wedi cael diagnosis, lle yr amgcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb
ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes; b) bod gofalu am bobl â diabetes
eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG; c) y risgiau cynyddol o ddal
COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a d) llwyddiant a
chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr,
a dreialwyd yng Nghwm Afan. 2. Yn annog Llywodraeth Cymru
i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o
gynllun atal diabetes i Gymru. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.18 NDM7552 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) mai Cymru yw'r lle gyda'r
cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae
dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2
heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes; b) bod gofalu am bobl â
diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG; c) y risgiau cynyddol o ddal
COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a d) llwyddiant a
chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl
gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan. 2. Yn annog Llywodraeth Cymru
i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o
gynllun atal diabetes i Gymru. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19 NDM7623 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Adferiad tymor hir o COVID-19, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 NDM7623 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Adferiad tymor hir o COVID-19, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3
Mawrth 2021. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng NDM7624 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078
Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i
bobl sydd angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.21 NDM7624 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078 Cynyddu
cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd
angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amseroedd aros y GIG NDM7626 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf
ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am
driniaeth. 2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7
bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth
wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf. 3. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn: a) clirio'r ôl-groniad o
driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth; b) recriwtio o leiaf 1,200 o
feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac c) trawsnewid iechyd meddwl
drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws
uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y
GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau
arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu; b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y
gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd; c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol] Gwelliant 2. Mark Reckless
(Dwyrain De Cymru) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal
iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru. Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdrin â gofal
iechyd gydag un Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cyd-gyflwynwr [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei
ddad-ddethol] Gwelliant 3. Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n
hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y
gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio
ers 2010. Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan
lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl
degawd. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu
mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU; b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff
proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru; c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd
aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis; d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am
driniaeth; ac e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael
ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol. Gwelliant 4. Siân Gwenllian
(Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw
drwy: a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy
wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7626 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf
ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am
driniaeth. 2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7
bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth
wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf. 3. Yn credu bod Llywodraeth
Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn: a) clirio'r ôl-groniad o
driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth; b) recriwtio o leiaf 1,200 o
feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac c) trawsnewid iechyd meddwl
drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws
uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y
GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau
arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu; b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y
gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd; c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol Gwelliant 4. Siân Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r unig ffordd o
drawsnewid iechyd a gofal yw drwy: a) ffocws newydd ar fesurau
ataliol; a b) integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig
newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant
4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7626 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar
restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. 2. Yn cydnabod: a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio
pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i
ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn
destun ymyriad wedi’i dargedu; b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth
iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd; c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff
iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r
gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng
iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18,
am 17.27 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.30. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7625 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson
ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi
newid. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 NDM7625 Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson
ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi
newid. |