Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Amseriad disgwyliedig: 321
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/02/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni chyflwynwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.15 Gwnaeth David Rees ddatganiad am - Diwrnod
Canser y Byd (4 Chwefror). Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn Feistr y byd dartiau. Gwnaeth Andrew RT Davies ddatganiad am - Teyrnged
i’r Capten Syr Tom Moore. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw NDM7575 Bethan Sayed
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân:
ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 17 Rhagfyr 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.21 NDM7575 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu, Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig NDM7581 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020. 2. Yn cydnabod effaith
y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â
salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws
ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal. 3. Yn cydnabod
pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth
profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath. 4. Yn nodi pryderon
Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a
bron ac wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o
ddarparu gofal diwedd oes. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) parhau i adolygu'r
canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi
gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a
thosturiol yn ystod gofal diwedd oes; b) sicrhau bod y rhai
sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael
ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel; c) cynyddu'n sylweddol
y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth
yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth
sy'n deillio o'r pandemig; d)
gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen
wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal
lliniarol. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: (e) mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at
ofal diwedd oes da. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.50 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7581 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng
Nghymru yn 2020. 2. Yn
cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes
a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried
cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a
chartrefi gofal. 3. Yn
cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau
cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath. 4. Yn
nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o
dan straen a bron wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau
ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes. 5. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai,
hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi
cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes; b)
sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn
gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel; c)
cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau
cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion
cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig; d)
gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen
wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal
lliniarol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol NDM7580 Sian Gwenllian
(Arfon)
Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at y
ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a
chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth
Cymru. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd
i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a
fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei
gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal
ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i
asesu pob opsiwn posibl. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig. Gwelliant 3 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn
yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r
Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o
bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd. Llyfrgell
Genedlaethol Cymru: Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol
Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.23 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i
dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol
gan Lywodraeth Cymru. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r
Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a
fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei
gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: Yn nodi
bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth
Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i'r
cynnig. Gwelliant
3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yr adolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell
Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i
ddarparu ei gwasanaethau craidd. Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod
Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn
posibl.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.03 cafodd
y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 17.07. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7577 Suzy Davies
(Gorllewin De Cymru) Pam nad ydym yn caru
ieithoedd rhyngwladol? Sylwadau
ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a rôl y prosiect mentora myfyrwyr
ieithoedd tramor modern. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11. NDM7577 Suzy Davies (Gorllewin De
Cymru) Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol? Sylwadau ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a rôl y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |