Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jardine
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Nicola Callow (Cyfarwyddwr Cyllid), Mike Snook (Pennaeth
Pobl a Lleoedd) a Dave Tosh (Cyfarwyddwr Adnoddau’r Cynulliad). 1.2
Datganodd Chris Warner fuddiant yn y mater o
strategaeth tâl yn y dyfodol, gan y byddai’n arwain ar drafodaethau cyflog ar
gyfer yr FDA. |
|
Nodyn cyfathrebu i’r staff – Adrian Crompton Cofnodion: 2.1 Cytunodd Adrian Crompton i
ddrafftio nodyn ar drafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion. |
|
Cofnodion o’r cyfarfod ar 5 Hydref - i’w dosbarthu drwy e-bost. Cofnodion: 3.1 Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5
Hydref yn gofnod cywir. |
|
Cyfarfod Strategaeth ac Adnoddau - Adnoddau Dynol
Cofnodion: 4.1 Roedd y Bwrdd Rheoli wedi cytuno i neilltuo’r
cyfarfod i drafod materion Adnoddau Dynol, wedi’u harwain gan Lowri Williams.
Roedd Lowri wedi cyfarfod ag aelodau’r Bwrdd yn unigol i drafod pryderon, a
godwyd yn ystod y cylch cynllunio capasiti diwethaf, bod polisïau’r gweithlu yn
creu pwysau ar y gallu i gyflawni busnes. Roedd Adnoddau Dynol wedi datblygu
cynigion i ymdrin â hyn a hefyd i ymateb i sylwadau gan staff a oedd wedi eu
casglu drwy’r arolwg staff a’r archwiliad recriwtio. |
|
Fframwaith a pholisïau recriwtio a phenodi Cofnodion: 5.1 Cyflwynodd Leanne Baker bapur yn amlinellu
cynigion ar gyfer newidiadau trefniadol i nifer o bolisïau sy’n gysylltiedig
â’r Polisi Recriwtio, gan gynnwys lwfansau, secondiadau, swyddi blaenoriaeth a
pholisïau tâl a gwobrwyo. 5.2 Pwrpas y Polisi Recriwtio oedd sicrhau bod y
Comisiwn yn gallu recriwtio a chadw’r bobl yr oedd eu hangen arno i ddarparu
cymorth seneddol o’r radd flaenaf i’r Cynulliad. Cafodd y newidiadau eu
datblygu yn unol â’r egwyddorion recriwtio a gytunwyd ym mis Mawrth 2015 sef
teilyngdod, tegwch a bod yn agored. 5.3 Yn benodol, trafododd y Bwrdd: rhesymoli talu
lwfansau i ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol; trefniadau ar gyfer secondiadau a
throsglwyddiadau mewnol heb effeithio’n ddiangen ar gynllunio capasiti a
chydweithwyr; y polisi ar swyddi blaenoriaeth i gefnogi gweithwyr heb swydd
barhaol i ddychwelyd iddi; a’r dull o recriwtio’n barhaol i swyddi gwag. 5.4 Cytunodd y Bwrdd fod y polisïau yn gydbwysedd
rhesymol o gysondeb a hyblygrwydd, yn amodol ar egluro rhai mân faterion. 5.5 Cytunodd y Bwrdd hefyd ei bod yn bwysig i
graffu yn rheolaidd a herio penderfyniadau adnoddau a chydnabyddiaeth y cyd, er
mwyn deall arferion gwirioneddol mewn gwahanol rannau o’r sefydliad a sicrhau
bod polisïau yn parhau i fod yn ymarferol. 5.6 Byddai’r cynigion yn cael eu trafod yn fanwl 5.7 Camau: • Lowri Williams i gyfarfod â’r Penaethiaid ar
wahân i edrych eto ar y pwyntiau manwl a godwyd; a’r • Bwrdd Rheoli i dderbyn gwybodaeth reoli
reolaidd. |
|
Strategaeth tâl ar gyfer y dyfodol Cofnodion: 6.1 Amlinellodd Wayne Cowley ddull posibl i dâl
staff pan fydd y cytundeb presennol yn dod i ben ym mis Hydref 2016. Bu’r Bwrdd
yn trafod y goblygiadau a gofynnwyd i ragor o waith gael ei wneud i sicrhau’r
cydbwysedd cywir rhwng newid cadarnhaol a fforddiadwyedd. |
|
Cynllunio capasiti Cofnodion: 7.1 Byddai cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23
Tachwedd yn cael ei neilltuo ar gyfer y drafodaeth ar gynllunio capasiti ac
adnoddau. Byddai Pecyn o ddata Adnoddau Dynol ar gael er gwybodaeth i’r Bwrdd
cyn y cyfarfod. 7.2 Camau:
Aelodau’r Bwrdd Rheoli i gysylltu â Lowri Williams os oedd angen cymorth
pellach i baratoi ar gyfer y cyfarfod. |
|
Diweddariad ar ddangosfwrdd y Pumed Cynulliad Cofnodion: 8.1 Derbyniodd y Bwrdd y dangosfwrdd diweddaraf
yn dangos y gwaith sy’n mynd rhagddo, y materion allweddol a’r risgiau. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: 9.1 Adroddiad Rheolaeth Ariannol - roedd yr
adroddiad ar gyfer mis Hydref wedi cael ei baratoi a dywedodd Claire Clancy
wrth y Bwrdd fod y rhagolwg diwedd blwyddyn ar hyn o bryd yn awgrymu
tanwariant. Byddai’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn craffu ar y gyllideb yn
fanwl yn ei gyfarfod nesaf ac yn gwneud penderfyniadau buddsoddi priodol. 9.2 Adolygiadau Perfformiad a Datblygu Rheolwyr -
ar ddydd Gwener 30 Hydref, roedd 79% o’r staff wedi cwblhau eu hadolygiadau. 9.3 Gorchymyn etholiadau - dywedodd Non Gwilym
fod y tystysgrifau a dderbyniwyd gan y Swyddogion Canlyniadau yn rhoi gwybod
i’r Cynulliad am Aelodau etholedig ar adeg eu hethol, nawr yn gallu cael eu
llofnodi a’u hanfon ymlaen yn electronig. 9.4 Diolchodd y Bwrdd i Lowri Williams a’i thîm
am yr holl ymdrech a wnaed o ran y gwaith polisi a thâl a’r paratoadau ar gyfer
y cyfarfod. 9.5 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 23
Tachwedd. |