Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30 – 9:35)

1.

Ethol Cadeirydd Dros Dro

1.       Yn dilyn ymddiswyddiad Syr George Reid o'i rôl yn Gadeirydd ar Fwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gofynnodd Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad i aelodau'r Bwrdd Taliadau enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

 

2.       Etholwyd Sandy Blair yn unfrydol gan aelodau'r bwrdd yn Gadeirydd Dros Dro ar y Bwrdd Taliadau.

 

3.       Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod ac estynnodd groeso i Anna Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd y Bwrdd a Dan Collier, y Dirprwy Glerc newydd.

 

4.       Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

Cofnodion:

1.       Yn dilyn ymddiswyddiad Syr George Reid o’i rôl fel Cadeirydd Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gwahoddodd Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad y Bwrdd Taliadau i enwebu Cadeirydd Dros Dro o dan Adran 1(3) o Fesur Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2010).

 

2.       Etholodd y Bwrdd Sandy Blair yn unfrydol yn Gadeirydd Dros Dro y Bwrdd Taliadau.

 

3.       Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd i’r cyfarfod a chroesawodd Anna Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol, Gareth Price, Clerc newydd y bwrdd, a Dan Collier, Dirprwy Glerc newydd y Bwrdd.

 

4.       Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

(9:35 – 10:00)

2.

Trafod ffyrdd o weithio

1.       Trafododd y Bwrdd ddulliau o weithio.

Cofnodion:

1.       Trafododd y Bwrdd ddulliau o weithio.