Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.30 - 11.30) |
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2 Fe wnaeth y Fonesig Jane Roberts ddatgan buddiant ar gyfer eitem 3 gan
ei bod yn aelod o gorff llywodraethu Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. 1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod ar 23 Ionawr 2017 yn amodol ar
fân newidiadau. 1.4 Nododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill 2017 a dyddiadau ei
gyfarfodydd hyd nes mis Mawrth 2018. 1.5 Trafododd y Bwrdd gais Rhyddid Gwybodaeth ar ei waith, a chytunodd nad
oedd ganddo wybodaeth ar gyfer y cais. 1.6 Trafododd y Bwrdd y modd y mae Aelodau'r Cynulliad yn defnyddio
gwirfoddolwyr a chytunodd â'r cyngor a roddwyd i'r Aelodau. 1.7 Cytunodd y Bwrdd i drafod nifer y swyddfeydd rhanbarthol ac etholaethol
y gall Aelodau'r Cynulliad eu prydlesu rhywbryd yn y dyfodol. 1.8 Trafododd y Pwyllgor y broses ar gyfer rhoi cyngor i Aelodau'r
Cynulliad ynghylch contractau prydlesu eu swyddfeydd, a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i nodi ei bryderon ynghylch y mater; ac ·
adolygu'r broses yn ystod ei drafodaethau ynghylch y pumed Penderfyniad. 1.9 Trafododd y Bwrdd y ffordd orau o ymgysylltu â Phanel Arbenigol y
Llywydd ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad o ystyried bod unrhyw un
o'i argymhellion y bydd Comisiwn y Cynulliad am weithredu arnynt yn debygol o
effeithio ar ei waith. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gadeirydd y Panel i
sicrhau bod ganddo gyfle i gyfrannu ar adeg briodol. 1.10 Yn wyneb y cyhoeddiad diweddar gan yr Awdurdod
Safonau Seneddol Annibynnol ynghylch Aelodau'n penodi aelodau o'u teulu,
cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod yr egwyddor hon yn y dyfodol. 1.11 Cytunodd y Bwrdd i fonitro nifer yr
hawliadau goramser a hawliwyd gan staff cymorth Aelodau'r Cynulliad i sicrhau
bod yr oriau a wneir yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac y gweithredir
dyletswydd gofal i'r holl staff. 1.12 Cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i'r gyllideb sy'n
weddill o'r adolygiad diogelwch gael ei drosglwyddo i'r flwyddyn
ariannol nesaf ond pwysleisiodd cymaint o frys sydd i holl Aelodau'r Cynulliad
gynnal y gwaith uwchraddio angenrheidiol ar fyrder. 1.13 Cytunodd y Bwrdd i drafod ei strategaeth ar gyfer
ymgysylltu â'r cyhoedd yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(11.30 - 13.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad 2017-18 Cofnodion: Cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad 2017-18 2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymateb a gafodd i'r ymgynghoriad ynghylch y
cynnydd arfaethedig i gyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2017-18
o 2.1 y cant, yn unol â ffigurau dros dro 2016 yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac
Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru. 2.2 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth Aelodau'r Cynulliad o
2.1 y cant ar gyfer 2017-18. 2.3 Nododd y Bwrdd fod cyflog Aelodau'r Cynulliad yn cynyddu'n awtomatig yn
unol â'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer enillion canolrifol yng
Nghymru, fel y nodir yn y Penderfyniad. Camau gweithredu: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u
staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd cyflog ar eu cyfer. ·
Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion eraill a nodwyd yn yr ymateb i'r
ymgynghoriad yn y dyfodol. Costau swyddfa ar gyfer 2017-18 2.4 Nododd y Bwrdd na chafwyd unrhyw ymatebion i'w ymgynghoriad ar y
cynnydd arfaethedig o 1.2 y cant i lwfans costau swyddfa yn unol â'r
amcangyfrif ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ym mis Tachwedd 2016. 2.5 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu lwfans costau swyddfa o 1.2 y cant erbyn
2017-18. Camau gweithredu: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu'n ffurfiol at Aelodau'r Cynulliad a'u
staff cymorth yn cadarnhau'r cynnydd yn y lwfans costau swyddfa. Gwariant ar Lety Preswyl 2.6 Nododd y Bwrdd y bydd yr ymgynghoriad i gynyddu gwariant ar lety
preswyl ar gyfer Aelodau sydd y tu allan i'r ardal i £775 y mis yn dod i ben ar
13 Ebrill. Cytunodd y Bwrdd y gwneir penderfyniad ynghylch canlyniad yr
ymgynghoriad y tu allan i gyfarfod ffurfiol y Bwrdd. Camau gweithredu: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r Bwrdd eu
hystyried. |
|
(14.00 - 15.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adroddiad i ganfod rhwystrau a chymhelliant unigolion wrth sefyll i gael eu hethol i fod yn Aelod Cynulliad Cofnodion: 3.1 Gwnaeth y Fonesig Jane Roberts ailddatgan ei buddiant. Roedd aelodau'r
Bwrdd yn fodlon nad oedd unrhyw wrthdaro buddiannau ac roedd yn fodlon i Jane
gyfrannu at yr eitem. 3.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses
dendro. Cytunodd y Bwrdd ar y camau nesaf ar gyfer y darn o waith gan nodi y
cytunir ar y tendr llwyddiannus y tu allan i'r cyfarfod ffurfiol. 3.3 Cymeradwyodd y Bwrdd y crynodeb ymchwil a roddwyd iddynt gan Wasanaeth
Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol. Camau gweithredu: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i weithio â'r tendr llwyddiannus i sicrhau bod eu
cynigion a'u hamserlenni yn cyd-fynd â blaenraglen waith y Bwrdd. |
|
(15.00 - 16.00) |
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adolygiad o egwyddorion sylfaenol y Penderfyniad a'i effeithiolrwydd Cofnodion: 4.1 Trafododd y Bwrdd yr holiadur drafft i Aelodau'r Cynulliad a'u staff
cymorth, a chytunwyd: ·
Ar fân newidiadau yn y ddau holiadur; ·
I ddangos yn glir pam mae agweddau ar y penderfyniad wedi cael eu cynnwys
neu eu hepgor o'r holiaduron yn unol â blaenraglen waith ehangach y Bwrdd; ·
I dreialu'r holiadur gyda Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a Grŵp
Cynrychiolwyr y Staff Cymorth o leiaf; ac ·
I nodi ffyrdd arloesol o annog y ddau grŵp i gwblhau'r holiaduron. Camau gweithredu: ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r holiaduron fel sydd ei angen, a'u
dosbarthu eto yn electronig i'r Bwrdd eu hadolygu. ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno treial ar gyfer yr holiadur. ·
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno'r holiadur terfynol yn electronig ac ar
gopïau caled unwaith y cytunir arnynt. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd y Bwrdd adroddiad Gorwel 'Has Wales developed a political
elite?'. |
||
Unrhyw fater arall Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Claire Clancy, y Prif Weithredwr a Chlerc
y Cynulliad sydd â'i chyfnod yn dod i ben, i ddiolch iddi ar ran y Bwrdd hwn a
Byrddau blaenorol am y gefnogaeth y roddodd yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Manon Antoniazzi i'w chroesawu i'w swydd
newydd. |