Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:00 – 9:15) |
Cyflwyniad y Cadeirydd ·
Cofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2013 - Papur 1a ·
Cofnodion y cyfarfod ar 14/15 Tachwedd 2013 - Papur 1b ·
Datganiadau o fuddiant ·
Adborth o gyfarfodydd ag Arweinwyr y Pleidiau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Bwrdd i’r cyfarfod. 1.2 Cafodd cofnodion
y cyfarfodydd blaenorol ar 18 Hydref a 14/15 Tachwedd eu hadolygu ac yn dilyn
awgrym i newid teitl Sandy Blair o Gadeirydd Dros Dro i Gadeirydd, cadarnhawyd
eu bod yn gywir. 1.3 Dywedodd yr
Athro Monojit Chatterji bod ganddo fuddiant am ei fod wedi'i benodi yn aelod
lleyg o Bwyllgor Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ar gyfer yr Awdurdod Safonau
Seneddol Annibynnol (IPSA) yn ddiweddar. Nid oedd buddiannau eraill i'w datgan. |
|
(9.15-10.30) |
Materion ar gyfer penderfyniad buan ac ymgynghori/cyfathrebu |
|
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad ·
Papur 2a Cofnodion: 2.1 Trafododd y Bwrdd bapur a luniwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil a
oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir am y setliad cyflog ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad yn 2015-16, sef pumed flwyddyn ychwanegol y Cynulliad hwn. 2.2 Nododd y Bwrdd fod y Cadeirydd Dros Dro wedi cynnal cyfres o
gyfarfodydd anffurfiol gydag arweinwyr y
pleidiau er mwyn trafod eu cyflogau yn 2015-16. 2.3 Nododd y Bwrdd fod y cyflogau eisoes wedi'u rhewi ers pum
mlynedd a chytunwyd y dylid ymgynghori â'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion
i gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog sylfaenol ar gyfer 2015-16, yn
unol â chyflogau'r sector cyhoeddus. |
||
Cyflogau staff cymorth yr Aelodau - dyfarniad cyflog 2014-15 ·
Papur 2b Cofnodion: 2.4 Trafododd y
Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau ynghylch cyflogau'r staff
cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15. 2.5 Cytunodd y Bwrdd
y dylid ymgynghori â'r staff cymorth a'r Aelodau Cynulliad ynghylch cynigion i
gymhwyso dim mwy nag 1% o gynnydd yn y cyflog ar gyfer 2014-15, yn unol â
chyflogau'r sector cyhoeddus. 2.6 Cytunodd y Bwrdd
i gynnull cyfarfod o grŵp cyfeirio Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i
gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau - yn enwedig safbwyntiau staff sy'n
gweithio y tu allan i Fae Caerdydd. |
||
Adolygiad o'r Penderfyniad blynyddol ·
Papur 2c Cofnodion: 2.7 Trafododd y
Bwrdd bapur a luniwyd gan Gymorth Busnes i'r Aelodau yn nodi'r meysydd i'w
hystyried fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. 2.8 Cytunodd y Bwrdd
i ymgynghori ag Aelodau'r Cynulliad ar y cynigion i gynyddu 5% ar y lwfans rhenti
ar gyfer Aelodau sydd â'u prif gartref o fewn yr Ardal Allanol, o £700 y mis, i
£735 y mis, i adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad rhentu. 2.9 Cytunodd y Bwrdd
hefyd i ymgynghori ar gynigion i gynyddu'r Lwfans Costau Swyddfa yn unol â
chwyddiant (CPI), yn unol â chynnydd y flwyddyn flaenorol. |
||
Newidiadau posibl i ddarpariaethau trosiannol - grant adsefydlu, eiddo wedi'i forgeisio (eitem lafar) ·
Grantiau ymaddasu, eiddo ar forgais (eitem lafar) Cofnodion: 2.11 Trafododd y Bwrdd
y darpariaethau trosiannol ar gyfer Aelodau Cynulliad etholedig cyn 2011, gan
gynnwys grantiau adsefydlu ac eiddo wedi'i forgeisio. 2.12 Cytunodd y Bwrdd
i ymgynghori ynghylch sicrhau mai dim ond i ymgeiswyr a gollodd eu seddi yn
etholiad 2016 y byddai grant adsefydlu ar gael. Cytunwyd i barhau â'r
trefniadau trosiannol ar gyfer eiddo wedi'i forgeisio, gan mai effeithio ar
nifer fach o Aelodau y mae hyn, a bod perygl y gallai unrhyw newid olygu
cynnydd yn y costau. |
||
(10:45 – 12:15) |
Cyflogau a Phenderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad |
|
Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad ·
Ystyried sut i ymdrin â chyflogau a lwfansau ar ôl yr
etholiad nesaf – Papur 3a Cofnodion: 3.1 The Board
considered a paper prepared by the Members’ Business Support on the
Determination for Assembly Members for the fifth Assembly and discussed its
strategic approach. 3.2 The Board agreed
to invite key stakeholders, including party leaders, to its meeting on 20 March
to take evidence on aspects of the current determination and the development of
the Determination for the fifth Assembly. |
||
Cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad ·
Papurau 3b a 3c Cofnodion: 3.3 Trafododd y
Bwrdd bapur ynghylch cyflogau Aelodau'r Cynulliad yn y Pumed Cynulliad, a oedd
wedi ei baratoi gan y Clerc a'r Gwasanaeth Ymchwil. Bu'r Bwrdd yn trafod
amrywiaeth o opsiynau ar gyfer mynegeio ac ystyriwyd opsiynau ar gyfer
gwerthuso swyddi. 3.4 Cytunodd y Bwrdd
i gomisiynu ymarfer gwerthuso swyddi i sicrhau bod y cyfrifoldebau ychwanegol y
mae Aelodau'r Cynulliad wedi eu hysgwyddo yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y
pecyn tâl. Cytunodd y Bwrdd y bydd y gwerthusiad hwn hefyd, am y tro cyntaf, yn
cynnwys cyfrifoldebau Gweinidogion ac amryw o swydd-ddeiliaid eraill. 3.5 Cytunodd y Bwrdd
hefyd i wahodd cynigion i wneud gwaith ymchwil gydag ymgeiswyr ac ymgeiswyr
posibl y Cynulliad er mwyn canfod a oes unrhyw agweddau ar dâl yn rhwystro
unigolion rhag sefyll i gael eu hethol. |
||
(13:00 – 14:30) |
Pensiynau ·
Adolygu'r gwaith hyd yma
– Papur 4a ·
Ystyried cynigion ar gyfer cynllun newydd - Papurau 4b a 4c ·
Opsiynau ymgynghori - Papur 4d Cofnodion: Adolygiad
o'r gwaith hyd yma (Papur 4a) 4.3 Nododd y Bwrdd y
gwaith hyd yma ar y trefniadau pensiwn newydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Ystyried
cynigion ar gyfer cynllun newydd 4.4 Croesawodd y
Cadeirydd Paul Carberry a Hannah Beacham o Wragge & Co a gwahoddwyd hwy i
gyflwyno eu drafft o'r adroddiad cyfreithiol ar y trefniadau pensiwn
arfaethedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad o fis Ebrill 2015. 4.5 Hefyd,
croesawodd y Cadeirydd Mark Packham o PwC a gwahoddwyd ef i gyflwyno'r
adroddiad cynghorol actiwaraidd cychwynnol. Holodd y Bwrdd Wragge & Co a PwC am eu hadroddiadau. Cam i’w
gymryd: ·
Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trafod y trefniadau llywodraethu
ar gyfer unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig gyda'r cynghorwyr cyfreithiol. Opsiynau
ar gyfer ymgynghori 4.6 Nododd y Bwrdd
bapur a luniwyd gan Carys Evans a Richard Bettley yn cynnig opsiynau ar gyfer
ymgynghoriad y Bwrdd ar drefniadau pensiwn yr Aelodau. 4.7 Trafododd y
Bwrdd opsiynau ymgynghori, gan gynnwys pa randdeiliaid i ymgynghori â hwy, a dull
a strwythur yr ymgynghoriad. 4.8 Cytunodd y Bwrdd
ar broses ymgynghori dau gam. Byddai'r
cam cyntaf ym mis Ebrill/Mai yn canolbwyntio ar y materion ehangach, ac yna
cyflwynir cynnig manylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. |
|
(14:30 - 14:45) |
Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ·
Asesiad Effaith Cydraddoldeb - Papur 5a Cofnodion: 5.3 Trafododd y
Bwrdd bapur yn nodi'r opsiynau ar gyfer cynnal Asesiad o'r Effaith ar
Gydraddoldeb, a ddarparwyd gan Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau a'r Tîm
Cydraddoldeb. 5.4 Cytunodd y Bwrdd
y dylai Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gael ei wneud ar y pecyn
Penderfyniad llawn ar gyfer y Pumed Cynulliad. 5.5 Cytunodd y Bwrdd
hefyd y dylai'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb gael ei wneud gan staff
Comisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, cytunwyd y dylid comisiynu corff allanol i
gefnogi'r gwaith hwnnw ac i ddarparu cyngor arbenigol. |
|
Papurau i'w nodi ·
Rhaglen waith 2014-15 - Papur 6a ·
Adolygiad o'r cymorth a roddir i bwyllgorau - Papur 6b ·
Adroddiad IPSA ar gyflogau a phensiynau Aelodau Seneddol –
Paper 6c Cofnodion: 6.1 Nododd y Bwrdd y
rhaglen waith ar gyfer y Bwrdd Taliadau, yr adroddiad ar yr Adolygiad o Gymorth
ar gyfer Pwyllgorau, ac adroddiad IPSA ar gyflogau a phensiynau Aelodau
Seneddol. Cam i’w gymryd: ·
Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a'r
penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn, ac yn gofyn iddynt ymateb i'r
materion yn y nodyn. |