Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerc y Bwrdd Taliadau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(11:00 – 11:15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd yn ôl i’r cyfarfod. |
|
(11:15 – 12:30) |
Lwfansau Gofalwyr ·
Papur 10 – Nodyn ar Lwfansau Gofalwyr, a ddarparwyd gan y
Gwasanaeth Ymchwil Cofnodion: 2.1 Ystyriodd y
Bwrdd bapur a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil sy’n amlinellu’r cymorth sydd
ar gael ar hyn o bryd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a sut y mae’n cymharu
â Deddfwrfeydd eraill yn y DU. Mae’r papur yn amlinellu modelau cymorth posibl
hefyd. 2.2 Cytunodd y Bwrdd
y dylid ystyried heriau a brofir gan sbectrwm ehangach o ofalwyr pan fydd y
Bwrdd yn pwyso a mesur y Penderfyniad ar gyfer y pumed cynulliad. 2.3 Cytunodd y Bwrdd
i beidio ag ymgynghori ag Aelodau’r Cynulliad ar yr opsiynau ar gyfer cefnogi
Aelodau sydd â chyfrifoldebau gofalu ar hyn o bryd, ond i ystyried y mater eto
fel rhan o’r pecyn ar gyfer y pumed
Cynulliad. |
|
(12:45 - 13:00) |
Cyfraddau rhenti llety ·
Papur 11 – Nodyn a ddarparwyd gan staff y Comisiwn. Cofnodion: 3.1 Nododd y Bwrdd
fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r Gwariant
Llety Preswyl sydd ar gael i Aelodau y mae eu prif gartrefi yn yr ardal
allanol. 3.2 Ystyriodd y Bwrdd
a oedd y terfyn presennol, sef £8,400 y flwyddyn yn ddigon, ac a ddylid ei
adolygu ar unwaith, neu ei gynnwys fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r
Penderfyniad ym mis Ebrill 2014. 3.3 Nododd y Bwrdd
fod ystod fawr o brisiau rhenti yng Nghaerdydd, a chytunodd y dylid gwneud
rhagor o waith ymchwil i’r farchnad rhentu yn y brifddinas yn y flwyddyn
newydd, er mwyn cael asesiad mwy cywir. Cam i’w gymryd: Y Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i adolygu’r amrywiaeth o
brisiau rhenti ar gyfer tai yng Nghaerdydd sydd o fewn y terfyn presennol, sef
£8,400 y flwyddyn, ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd. |
|
(13:00 – 13:30) |
Treuliau eithriadol ·
Papur 12 – Nodyn ar lwfansau eithriadol, a ddarparwyd gan y
Gwasanaethau Cyfreithiol Cofnodion: 4.1 Nododd y Bwrdd
fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r treuliau
eithriadol a ysgwyddir, neu sydd i gael eu hysgwyddo, gan Aelodau’r Cynulliad,
wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau. 4.2 Ystyriodd y
Bwrdd bapur a oedd yn cadarnhau’r arfer presennol, ac yn nodi’r ffordd ymlaen
bosibl. Roedd y papur, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ceisio
cael cydbwysedd rhwng yr angen am ddisgresiwn i’r sawl sy’n gwneud cais, ag arferion
llywodraethu clir a chadarn. 4.3 Cytunodd y Bwrdd
y dylid diwygio’r Penderfyniad, ac na ddylid cynnal ymgynghoriad ag Aelodau’r
Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi gwybod i Aelodau’r
Cynulliad am unrhyw newidiadau a wnaed o ran treuliau eithriadol yn y
Penderfyniad. Cam i’w gymryd: Yr ysgrifenyddiaeth neu’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i
ddiwygio’r Penderfyniad i adlewyrchu’r cynigion yn y papur. |
|
(13:30 – 14:00) |
Ystyried y rhaglen waith ·
Papur 13 – Rhaglen Waith Cofnodion: 5.1 Nododd y Bwrdd raglen waith y Bwrdd Taliadau hyd at
ddechrau 2015, sy’n cynnwys y gweithgareddau a fydd yn digwydd rhwng y
cyfarfodydd. 5.2 Cytunodd y Bwrdd y dylai’r cyfarfodydd ar 21 Mawrth a 20
Mehefin gael eu trefnu dros dro fel cyfarfodydd deuddydd, o gofio faint o waith
a fydd i gael ei ystyried yn y cyfarfodydd hynny. 5.3 Cytunodd y Bwrdd fod yn rhaid ystyried y cyfnod o 12
wythnos ar gyfer cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad
yn y Pumed Cynulliad o fewn y rhaglenni gwaith sydd i gael eu hystyried gan y
Bwrdd yn y dyfodol. Cam i’w gymryd: Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at bob Aelod Cynulliad yn
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y materion a drafodwyd a’r
penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwn. |