Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Clerk: Kathryn Hughes Deputy Clerk: Buddug Saer
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant Cofnodion: 1.1
Derbyniwyd un
ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin (Swyddfa Archwilio Cymru). 1.2
Croesawodd y Cadeirydd
ddau Gynghorwr Annibynnol newydd i'r cyfarfod, sef Ann Beynon a Bob Evans. Amlinellodd Ann a Bob eu cefndiroedd
proffesiynnol a'u portffolio swyddogaethau presennol. 1.3
Dywedodd y Cadeirydd, yn
dilyn yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ei fod
bellach yn cefnogi'r adolygiadau o'r trefniadau Pensaernïaeth Ddigidol a
Llywodraethu. |
|
Cofnodion 9 Gorffennaf a materion yn codi Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 1 - Cofnodion 9 Gorffennaf 2018 ACARAC
(05-18) Papur 2 – Crynodeb o'r camau gweithredu 2.1
Gydag un newid bach,
cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod ar 9 Gorffennaf. 2.2
Cam gweithredu 4.3
(Cronfa Gyfunol Cymru): Cadarnhaodd Gareth Watts fod Dirprwy Archwilydd
Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn ddiamod ar gyfrifon Derbyniadau a Thaliadau
Cronfa Gyfunol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth
2018. Cyfeiriodd Datganiad Llywodraethu
Blynyddol Cronfa Gyfunol Cymru at y mater a drafodwyd gan y Pwyllgor yn
flaenorol, a dywedodd y byddai trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiwn y
Cynulliad, ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau er mwyn penderfynu a oedd
angen i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw gamau pellach i sicrhau bod y mater hwn
yn cael ei ddatrys. Byddai
Gareth yn rhan o'r trafodaethau ac yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor. Ailategodd
Gareth Lucey, o safbwynt Comisiwn y Cynulliad a thimau archwilio Cronfa Gyfunol
Cymru, nid oedd unrhyw anghysondeb o ran taliadau cyflog y Comisiynydd
Safonau. 2.3
Cam gweithredu 5.8: Bydd
y tîm Clercio yn ymgynghori ag aelodau'r Pwyllgor ynglŷn â'r flaenraglen
waith. 2.4
Cam gweithredu 6.4
(diweddariad ar brosiect y system gyllid): bellach wedi'i ddisodli, bydd
Uwch-swyddog Cyfrifol y prosiect yn cael ei wahodd i gyfarfod ACARAC ym mis
Chwefror. Camau gweithredu – Bydd
Gareth Watts yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gronfa Gyfunol Cymru. – Bydd y tîm
Clercio yn rhannu'r Flaenraglen Waith gydag aelodau'r Pwyllgor er mwyn sicrhau
bod y dyddiadau yn addas ac i wahodd awgrymiadau ar gyfer eitemau agenda yn y
dyfodol. – Bydd y tîm
Clercio yn gwahodd Uwch-swyddog Cyfrifol prosiect y system gyllid i'r cyfarfod
ym mis Chwefror er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar gam 3. |
|
Diweddariad am Gynnydd ar Seiberddiogelwch Cofnodion: Eitem lafar 3.1
Croesawodd y
Pwyllgor Mark Neilson a Richard Coombe i'r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar
seiberddiogelwch. Yn dilyn eu
diweddariad blaenorol ym mis Ebrill, roedd y broses o uwchraddio i system
Windows 10 wedi'i chwblhau'n llawn.
Roedd y Pwyllgor yn falch o fanteision diogelwch platfform Windows 10. 3.2
Amlinellodd Mark yr
amserlen ar gyfer cynlluniau profi yn y dyfodol. Croesawodd y Pwyllgor fwriad y Comisiwn i
ymuno â chynllun Cyber Essentials, sef cynllun a gefnogir gan Lywodraeth y DU
a'r diwydiant i helpu sefydliadau i ddiogelu eu hunain yn erbyn bygythiadau
ar-lein cyffredin. 3.3
Dangosodd y siart
risg seiberddiogelwch gynnydd ym mhob maes, ond cododd gwestiynau o ran
blaenoriaeth addysg i ddefnyddwyr ac ymwybyddiaeth. Cafodd Mark a'i dîm eu hannog gan Suzy Davies
i ddefnyddio'r Comisiynwyr i ymgysylltu â'u pleidiau ac i annog eu cydweithwyr
i gymryd rhan mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi. 3.4
Sicrhaodd Mark a
Richard fod y Comisiwn yn ymgysylltu â sefydliadau eraill, gan gynnwys
deddfwrfeydd eraill a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 3.5
Er ei fod yn
cydnabod bod seiberddiogelwch yn gofyn am wyliadwriaeth gyson, roedd y cynnydd
yn destun anogaeth i'r Pwyllgor. Trefnwyd adolygiad archwilio mewnol o
seiberddiogelwch ar gyfer dechrau 2019, a byddai'r Pwyllgor yn croesawu
diweddariad pellach ym mis Mehefin 2019 ac o leiaf bob chwe mis dilyn hynny. Camau i’w
cymryd – Bydd Mark
Neilson yn defnyddio Comisiynwyr y Cynulliad i rannu negeseuon allweddol i'w
grwpiau o ACau a Staff Cymorth ACau ynglŷn â'r sesiynau hyfforddiant a
chodi ymwybyddiaeth sydd ar gael. – Bydd Mark a Richard yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar
seiberddiogelwch ym mis Mehefin 2019, ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn wedi
hynny. |
|
Adroddiad Diweddaru ar Archwilio Mewnol Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 3 – adroddiad diweddaru 4.1
Cyflwynodd Gareth
Watts ei grynodeb diweddaraf o waith y tîm Llywodraethu a Sicrwydd. Cyfeiriodd at gwrs hyfforddi GDPR a fynychwyd
gan y Swyddog Diogelu Data, cynhadledd Fforwm Llywodraethu Gwell gan y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a fynychwyd gan y
Rheolwr Llywodraethu, a datblygiad proffesiynol pellach yr archwilydd mewnol
dan hyfforddiant. 4.2
Roedd Gareth wedi
trafod yr elfennau hynny yn ei gynllun, a oedd o'r pwys mwyaf i Swyddfa
Archwilio Cymru, yn enwedig o ran y datganiadau ariannol. Byddai'n parhau i
gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau bod y naill ochr yn
cefnogi'r llall yn unol â'u protocol cydweithio. 4.3
Pan holodd y
Pwyllgor ynglŷn â defnyddio TIAA, eglurodd Gareth, fel Pennaeth
Llywodraethu a Sicrwydd, pan fydd meysydd sy'n rhan o'i gyfrifoldeb yn cael eu
harchwilio, fod y Siarter Archwilio Mewnol yn nodi bod yn rhaid i'r
archwiliadau hyn gael eu hariannu'n allanol er mwyn sicrhau niwtraliaeth. Byddai'n diweddaru aelodau newydd y Pwyllgor
ynghylch TIAA ac yn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod mis Chwefror. 4.4
Cadarnhaodd nad
oedd unrhyw argymhellion dros ben o 2016-17. Camau i’w
cymryd – Bydd Gareth yn rhoi rhagor o wybodaeth i aelodau newydd y Pwyllgor am
TIAA ac yn gwahodd cynrychiolydd i gyfarfod mis Chwefror. |
|
Trafod yr adroddiadau Archwiliad Mewnol diweddaraf a Adroddiad Archwiliad Mewnol blaenorol a ddosbarthwyd Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 4 - Adolygiad o ddigwyddiadau (Sicrwydd Cymedrol) 5.1
Croesawodd y
Pwyllgor yr adroddiad hwn. Sbardunwyd yr
adolygiad gan newidiadau i'r system archebu ac i strwythur y tîm. 5.2
Disgrifiodd Manon
Antoniazzi y system archebu a oedd wedi'i sefydlu ers dros flwyddyn a'r angen
parhaus i gyfathrebu ac ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad. Camau i’w cymryd – Bydd
Gareth yn cylchredeg y cynllun gweithredu ar gyfer cyfathrebu a gwireddu
buddion. ACARAC
(05-18) Papur 5 - Rheoli Risg (Sicrwydd Sylweddol) 5.3
Anogwyd y Pwyllgor gan ganlyniad yr
archwiliad hwn a soniodd am waith Kathryn Hughes a Jane Legge wrth ddatblygu'r
system. 5.4
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Comisiynydd
wedi dangos aeddfedrwydd cynyddol o ran rheoli risg yn ystod ei ddaliadaeth,
a'i fod yn cael ei annog gan y fforymau a'r rhwydweithiau rheoli risg sydd ar
waith, ynghyd â chyfranogiad y staff ar bob lefel. 5.5
Gofynnodd yr
Aelodau gwestiynau ynghylch y system rheoli risg newydd a oedd yn cael ei
chyflwyno, yr hyfforddiant cysylltiedig, a pha mor effeithiol oedd y fforwm
risg o ran ymgysylltu, yn enwedig os nad oedd hyrwyddwyr risg yn bresennol yn
ystod y cyfarfod. Disgrifiodd Gareth a
Kathryn yr hyfforddiant cysylltiedig a oedd yn cynnwys hyfforddiant diweddaru
llawn ar reoli risg ar gyfer yr holl benaethiaid gwasanaethau a hyrwyddwyr
risg. Gwnaethant gytuno y dylid annog
hyrwyddwyr risg i fynychu, ond roeddent yn teimlo bod y fforwm wedi'i sefydlu
ac yn ddigon cadarn i ymdopi â newidiadau cyson mewn aelodaeth. Dosbarthwyd cofnodion y fforwm i'r
Penaethiaid Gwasanaeth ac fe'u cyhoeddwyd yn fewnol, ac roedd Kathryn o'r farn
bod hyn yn sicrhau y rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai a oedd yn cymryd
rhan. 5.6
Gofynnodd y
Pwyllgor pam nad oedd adroddiad ar reoli problemau ar gael Roedd
hyn yn cael ei ddatblygu a byddai'n cael ei gyflwyno gan Dave ar ddiwedd
cyfarfod mis Chwefror. Camau gweithredu – Bydd Dave Tosh
yn cyflwyno log rheoli problemau i'r Pwyllgor.
ACARAC
(05-18) Papur 6 - Fframwaith Sicrwydd (Adolygiad Cynghori, dim barn sicrwydd) 6.1
Croesawodd y
Pwyllgor yr adolygiad cadarnhaol. Awgrymwyd
y byddai siart llif o'r broses wedi helpu i egluro'r adroddiad, a dylai
sicrwydd drydedd linell gynnwys adolygiad yr Ymgynghorydd Annibynnol o
ddatganiadau llywodraethu cyfarwyddiaethau. |
|
Adolygu Trysorlys Ei Mawrhydi/canllawiau eraill ar gyfer Pwyllgorau Archwilio a Sicrwydd Risg Cofnodion: Eitem lafar 7.1
Llawlyfr Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg a Trysorlys Ei Mawrhydi, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth
2016, yw'r fersiwn ddiweddaraf o hyd.
Cadarnhaodd y tîm Clercio fod y cylch gwaith a'r flaenraglen waith yn
seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y llawlyfr.
Roedd y Cadeirydd yn dal i fod yn aelod o fforwm Cadeiryddion Pwyllgor
Swyddfa Archwilio Cymru ac anogodd gadeirydd nesaf y Pwyllgor i gymryd rhan y
flwyddyn nesaf. Byddai'n rhannu papurau diweddaraf Fforwm
Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa
Archwilio Cymru gydag aelodau'r Pwyllgor a swyddogion. Tynnodd sylw hefyd at ganllawiau'r Swyddfa
Archwilio Genedlaethol ar gyfer rhaglenni trawsnewid digidol, costau heriol
sy'n ymwneud â phrosiectau mawr, a rhagoriaeth wrth adrodd. 7.2
Roedd Gareth Watts
eisoes wedi rhannu diweddariadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a TIAA gydag aelodau'r Pwyllgor,
a chroesawodd gwestiynau ar y wybodaeth a rannwyd. 7.3
Gofynnodd aelodau'r
Pwyllgor a oedd gan Swyddfa Archwilio Cymru unrhyw enghreifftiau o arfer da i'w
rhannu gyda'r Pwyllgor. Disgrifiodd
Gareth Lucey hwb Arfer Da ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer
sefydliadau'r sector cyhoeddus ac elusennau.
Byddai'r tîm Clercio'n sicrhau bod linc yn cael ei rannu. Camau i’w cymryd – Bydd Eric
Gregory yn rhannu papurau diweddaraf Fforwm Cadeiryddion Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a Swyddfa Archwilio Cymru ag aelodau'r
pwyllgor a swyddogion (wedi'i gwblhau). |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 7 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Swyddfa Archwilio Cymru ACARAC
(05-18) Papur 8 - cynllun archwilio 2019 8.1
Cadarnhaodd Gareth
Lucey nad oedd unrhyw waith dros ben gan archwiliad 2017-18. Byddai'n cadarnhau'r alldro terfynol yn fuan,
a oedd yn debygol o fod yn is na'r amcangyfrif blaenorol (yn dilyn y cyfarfod:
y gost derfynol yw £57,255, sef £703 yn is nag amcangyfrif y Cynllun
Archwilio). 8.2
Roedd Cynllun
Archwilio 2019 wedi cael ei rannu a'i drafod gyda swyddogion yn flaenorol.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cynllunio cychwynnol ac roedd y dull archwilio a'r
amserlenni dros dro yn parhau yr un fath yn sylfaenol. Ni fyddai'r tîm
archwilio yn newid ac roedd Gareth yn rhagweld y gallent gadarnhau'r ffi yn
gynnar yn 2019. 8.3
Gan fod Archwilydd
Cyffredinol newydd Cymru wedi gweithio i'r Comisiwn yn ystod rhan o 2018-19,
byddai'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol yn cadarnhau datganiadau ariannol y
Comisiwn ar gyfer 2018-19. 8.4
Amlinellodd Swyddfa
Archwilio Cymru rai newidiadau allweddol i'r Safonau Adrodd Ariannol
Rhyngwladol dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, gan gynnwys cyflwyno IFRS 9
(offerynnau ariannol) ac IFRS 15 (refeniw o gontractau cwsmeriaid) yn 2018-19. Roedd cyflwyniad IFRS 16 (prydlesi) eisoes
wedi cael ei adrodd i'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd y Pwyllgor y dylai Nia Morgan
hysbysu'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r oedi, a symudwyd y dyddiad cyflwyno o
2019-20 i 2020-21. 8.5
Anogodd y Pwyllgor
i Swyddfa Archwilio Cymru a'r tîm cyllid barhau i fanteisio ar fuddion
effeithlonrwydd ychwanegol y system gyllid NAV ar gyfer archwiliad allanol o
ddatganiadau ariannol Comisiwn y Cynulliad. -
Bydd Nia Morgan yn hysbysu'r Pwyllgor Cyllid
ynglŷn â'r oedi o ran gweithredu IFRS 16 (prydlesi). |
|
Adborth diweddar ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 9 - Diweddariad y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ACARAC
(05-18) Papur 9 - Atodiad 1 ACARAC(05-18)
Papur 9 - Atodiad 2 8.1
Cyflwynodd Nia
ddiweddariadau i'r Pwyllgor ar sesiynau craffu diweddar y Comisiwn. Arweiniodd y ddau sesiwn at amrywiaeth o
argymhellion i'r Comisiwn, er nad oedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
wedi'i gyhoeddi hyd yn hyn. 8.2
Cafodd y Pwyllgor
Cyllid amlinelliad manwl o gyllideb ddrafft 2019-20, a chytunwyd ar hyn wedyn
gan y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2018. Yn
ystod y sesiwn graffu, tynnodd Suzy, Manon a Nia sylw at feysydd blaenoriaeth,
sef y Senedd Ieuenctid, Diwygio'r Cynulliad a'r Gweithgor Deddfwriaeth. 8.3
Gan fod prosiect y
Senedd Ieuenctid yn arloesol, a heb gael ei adlewyrchu gan ddeddfwrfeydd
eraill, roedd yn anodd rhagweld y costau'n union, a gellid eu herio yn ystod
cyfarfodydd y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y dyfodol. 8.4
Roedd y Pwyllgor yn
falch o weld y tryloywder amlwg a ddangoswyd yn ystod y sesiynau craffu a lefel
y gwaith paratoi a oedd yn ofynnol ar draws y sefydliad, yn enwedig gan y tîm
Cyllid. Gwnaethant ddiolch i Nia, Manon
a Suzy am eu cyfraniadau i'r eitem hon. |
|
Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2018-19 a Chyllideb 2019-20 Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 10 - Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2018-19 a Chyllideb 2019-20 10.1
Cyflwynodd Nia'r wybodaeth ddiweddaraf am
sefyllfa ariannol 2018-19, gan gadarnhau na fydd yr alldro yn fwy na'r
gyllideb, ac y byddai gwerth am arian a'r targedau talu prydlon yn cael eu
bodloni. Mae'r gyllideb ar gyfer
2019-20, y cytunwyd arni gan y Cynulliad ym mis Tachwedd, yn defnyddio model
arall i fynd i'r afael â phryderon y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus o ran Cyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ac mae'n nodi cynnydd o
1.67%. 10.2
Croesawodd y Pwyllgor y trosolwg hwn, gan
ofyn am fanylion pellach o ran telerau arbedion effeithiolrwydd y busnes. Camau i’w
cymryd –
Bydd Nia Morgan
yn cynhyrchu atodiad i'r
cofnodion a fydd yn cynnwys manylion o ran elfen effeithlonrwydd busnes yr
arbedion gwerth am arian. |
|
Adroddiad ar Risgiau Corfforaethol Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 11 - Risgiau Corfforaethol ACARAC
(05-18) Papur 11 - Atodiad A - Crynodeb o'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ACARAC
(05-18) Papur 11 - Atodiad B - Crynodeb o'r Risgiau Corfforaethol a nodwyd 11.1
Amlygodd Dave
newidiadau i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn dilyn adolygiad y Bwrdd
Gweithredol ym mis Hydref. Yn ddiweddar,
roedd risg diogelu'r Senedd Ieuenctid wedi cael ei chynnig fel risg
gorfforaethol, ac roedd tîm y prosiect wedi ymgysylltu â'r NSPCC i gael
sicrwydd allanol ynglŷn â'r llawlyfr ymgynefino drafft. 11.2
Cafwyd oedi wrth
sicrhau cliriadau staff gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ond roedd y
prosiect bellach yn canolbwyntio ar geisiadau ar sail blaenoriaeth, a byddai
gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr holl staff sy'n
gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn cael eu cynnal ym mis Rhagfyr a
Ionawr. Roedd y Cynulliad wedi derbyn y byddai pwysigrwydd y risg hon yn
parhau'n ddigyfnewid oherwydd natur y gwaith cysylltiedig. 11.3
Roedd y risg i
Urddas a Pharch blaenorol wedi cael ei disodli gan risg newydd a oedd yn
canolbwyntio ar y posibilrwydd o golli hyder yn y drefn Urddas a Pharch, ac mae
cyfres o gamau gweithredu ar y gweill i wella ac ymgorffori'r diwylliant Urddas
a Pharch a ddymunir. Diolchodd y
Pwyllgor i Dave a Manon am y diweddariad hwn a gofynwyd i'r risg Urddas a
Pharch newydd hon (CAMS-R-95) gael ei harchwilio'n feirniadol ym mis Chwefror. Camau i’w
cymryd – Bydd y tîm clercio yn trefnu archwiliad
beirniadol o'r risg i Urddas a Pharch yn ystod cyfarfod mis Chwefror. |
|
Archwiliad beirniadol o un risg sydd eisoes wedi'i nodi neu risg newydd Cofnodion: Diweddariad
llafar ar risgiau rhyng-gysylltiedig o ran diwygio'r Cynulliad 12.1
Croesawodd y
Cadeirydd Anna Daniel a Matthew Richards i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor ar y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o raglen ddiwygio'r
Cynulliad. Roedd eu ffocws wedi bod ar
ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynllunio senario ar gyfer Aelodau ychwanegol o'r
Cynulliad. Dywedodd Anna fod eu dull o
weithio yn hyblyg er mwyn sicrhau y gallent ymateb i ddigwyddiadau
annisgwyl. 12.2
Er ei fod yn
croesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus cysylltiedig, nododd y Pwyllgor fod cyfradd
ymateb gymharol isel o 1830, ac y byddai angen craffu'n barhaus ar hyn. Gwnaethant ddiolch i Anna a Matthew am y
diweddariad cynhwysfawr, a byddent yn croesawu diweddariadau pellach yn y
dyfodol. |
|
Crynodeb o'r ymadawiadau Cofnodion: ACARAC
(05-18) Papur 12- Crynodeb o'r ymadawiadau 13.1
Bu pedwar ymadawiad o'r weithdrefn gaffael
arferol i adrodd i'r Pwyllgor: porth cyngor Adnoddau Dynol a Chyfraith
Cyflogaeth; hyfforddiant partneriaeth Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu
ac Adnoddau Dynol; Trwydded Mynediad Cyfryngau; a'r ymgyrch 20 mlwyddiant. Nododd y Pwyllgor fod y pedwar ymadawiad i
gyd yn briodol ond roedd wedi'i siomi bod yr ymgyrch 20 mlwyddiant ond wedi
denu un cynnig/bid. |
|
Diweddariad gan y Cadeirydd ynghylch cyflwyno Adroddiad Blynyddol ACARAC i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Diweddariad ar lafar 14.1
Cadarnhaodd y Cadeirydd a Suzy fod y Comisiwn
wedi croesawu adroddiad blynyddol ACARAC ym mis Gorffennaf. |
|
Blaenraglen Waith Cofnodion: 15.1
Byddai hyn yn destun newid yn dibynnu ar
awgrymiadau gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Trefnwyd y cyfarfod nesaf ar gyfer 11 Chwefror
2019. |