Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau

 

1.2

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Gofynnodd Peter Black AC a David Melding AC i’r cofnodion nodi eu bod yn ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad.

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref.

 

2.

Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am y modd y mae’r Tîm Pensiynau yn gweithredu’r newidiadau y penderfynodd y Bwrdd Taliadau eu gwneud i Gynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y newidiadau hyn.

 

Bydd y Bwrdd Pensiynau newydd yn cynnwys:

        Ymddiriedolwr Annibynnol proffesiynol, a fydd yn cadeirio’r Bwrdd.

        Dau gynrychiolydd a enwebir gan yr Aelodau presennol ac Aelodau blaenorol.

        Dau gynrychiolydd a benodir gan Gomisiwn y Cynulliad.

 

Bydd y Tîm Pensiynau yn trefnu bod pob aelod o'r Bwrdd Pensiynau wedi’i benodi erbyn mis Mai 2016. Byddant yn ysgrifennu at yr holl aelodau yn gofyn iddynt a ydynt yn dymuno sefyll fel Ymddiriedolwr a enwebir gan Aelodau, a gofynnodd y Comisiynwyr a fyddai modd cysylltu â swyddfeydd y grwpiau hefyd.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â’r Comisiynwyr, fod yn gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau newydd.

 

3.

Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Ebrill - Medi 2015

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiwn yr adroddiad cyntaf ar berfformiad corfforaethol y Comisiwn yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.

 

Cyfeiriodd y Comisiynwyr yn benodol at absenoldeb oherwydd salwch, nifer yr ymwelwyr a’r nifer sy’n cymryd rhan mewn DPP. Awgrymwyd hefyd y gellid adnewyddu rhai o'r dangosyddion ac y byddai’n ddefnyddiol medru cymharu canlyniadau dros gyfnod. 

 

Cytunodd y Comisiwn i gyhoeddi’r adroddiad, ynghyd â llythyr i’r Pwyllgor Cyllid. Caiff yr adroddiad nesaf ei baratoi a’i gynhyrchu ar ôl diwedd mis Mawrth 2016.

 

4.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Diolchodd y Comisiynwyr i'r Dirprwy Lywydd am y gwaith roedd wedi'i wneud ar gyllideb y Comisiwn.

 

Trafodwyd a chytunwyd ar y materion a ganlyn, drwy ohebiaeth, yn ystod y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:

·         Cynigion i osod system teledu cylch cyfyng newydd ar Ystâd y Cynulliad. Ystyriwyd hyn yn y cyfarfod ar 17 Medi ac roedd y Comisiwn wedi cael rhagor o wybodaeth i ganiatáu iddynt ddod i gasgliad terfynol.