Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Nid
oedd Rhodri Glyn Thomas yn gallu bod yn bresennol oherwydd busnes Pwyllgor y
Rhanbarthau ac roedd wedi ymddiheuro. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr yn gywir. |
|
Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2015-16 papur 2 Cofnodion: Roedd strategaeth cyllideb y Comisiwn yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi
caniatáu i’r sefydliad fuddsoddi i sicrhau cymorth seneddol o’r radd flaenaf o
ran cyfleusterau, gwasanaethau, arbenigedd a’r rhyngwyneb cyhoeddus, gan
sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd hefyd. 2015-16 fydd blwyddyn olaf y
Pedwerydd Cynulliad a daw gwaith y
Comisiwn presennol yn y meysydd hyn i ben. Cytunwyd y byddai’r dull o weithredu ar gyfer cyllideb 2015-16 yn dilyn
hwnnw a fabwysiadwyd ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. Byddai’n canolbwyntio
ar gael gwared ar ddulliau aneffeithiol o weithio a sicrhau gwerth am arian er
mwyn medru parhau i arloesi a chyflawni’n hymrwymiad parhaus i safon y
gwasanaethau i’r Aelodau a’r cyhoedd. Dylid hefyd ystyried cynlluniau a
senarios mwy hirdymor i hwyluso’r broses o drosglwyddo’r awenau i’r Comisiwn
nesaf yn 2016. Cymeradwyodd y Comisiynwyr Strategaeth Cyllideb
2015-16, gan gynnwys yr argymhellion yn adran 2. Byddai swyddogion yn
datblygu’r gyllideb ddrafft, yn unol â’r dulliau o weithredu y cytunwyd arnynt,
yn barod i’w trafod ym mis Mai. |
|
Gwasanaethau Ymgysylltu Ieuenctid y Cynulliad yn y dyfodol papur 3 ac atodiadau Cofnodion: Ym mis Mai 2013, cytunodd y Comisiwn i ymgynghori â phobl ifanc ynghylch
yr hyn a wneir yn y dyfodol i ymgysylltu â nhw.
Gwnaed hyn yn ystod hydref 2013 a chafwyd sylwadau gan bron 3,000 o bobl
ifanc o bob rhan o Gymru. Drwy gyfrwng yr ymgynghoriad, cafwyd gwybodaeth
newydd am ddealltwriaeth pobl ifanc o waith y Cynulliad a’u diddordeb ynddo, a
rhai syniadau am y ffordd orau y gallai’r Cynulliad ymgysylltu â phobl ifanc
i’w galluogi i gyfrannu at ei waith. Trafododd
y Comisiynwyr y dulliau o weithredu a gynigiwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’r
sylwadau a gafwyd gan bobl ifanc, sef bod angen sicrhau bod ymgysylltu â phobl
ifanc yn rhan annatod o waith yr Aelodau, a bod yr amrywiaeth lawn o
wasanaethau y mae’r Comisiwn yn eu darparu’n ategu’r gwaith hwnnw. Roedd y dull
arfaethedig o weithredu wedi’i seilio ar dair prif thema: ·
estyn allan ( i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod am fusnes y Cynulliad a’r hyn
y mae’n ei olygu iddyn nhw); ·
hwyluso trafodaeth (cynnig gwahanol
ffyrdd i bobl ifanc gyfrannu at waith y Cynulliad); ·
sylwadau gan bobl ifanc am effaith
eu cyfranogiad. Bu grŵp o randdeiliaid allanol, a oedd yn
cynnwys cyrff ymbarél a oedd, rhyngddynt, yn cyrraedd dros 80,000 o bob ifanc,
yn trafod y dull arfaethedig hwn o weithredu ddiwedd mis Ionawr, ac roeddent yn
gefnogol iawn iddo. Trafododd
y Comisiynwyr nifer o syniadau, gan gynnwys: ·
mwy o gymorth i Aelodau’r Cynulliad
a staff y Comisiwn, gan gynnwys arbenigedd mewn gwaith ieuenctid; ·
cydweithio â chyrff a rhwydweithiau
eraill i gyrraedd grwpiau amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc y mae’n anoddach eu
cyrraedd; ·
cynnal digwyddiadau fel “diwrnod
ieuenctid” a rhoi tystysgrifau i’r rhai sy’n cymryd rhan; ·
cynnig gwasanaethau mwy amrywiol
drwy gyfrwng gwefan y Cynulliad ar gyfer
pobl ifanc www.dygynulliad.org.
Byddai
Aelodau’r Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y gwaith, pe dymunent, gan gynnwys
cymryd rhan yn y digwyddiad lansio yn nhymor yr haf. Byddai’r prosiect yn
parhau i fynd rhagddo ochr yn ochr â busnes arferol y Cynulliad felly ni
fyddai’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniad yr Aelodau. Er bod y dull hwn o weithredu’n wahanol iawn i’r hyn a
drafododd y Comisiwn yn wreiddiol, teimlwyd bod y cyfeiriad strategol yn iawn
gan ei fod wedi’i seilio ar farn pobl ifanc. I gyflawni’r weledigaeth
uchelgeisiol, byddai’n rhaid cymryd camau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r
tymor hir. Roedd swyddogion wrthi’n paratoi cynllun gweithredu. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiwn 3 Chwefror (ACARAC) eitem lafar Cofnodion: Rhoddodd
Angela Burns wybodaeth lafar am drafodaethau Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
y Cynulliad yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror. Eric Gregory yw’r Cadeirydd yn awr a
hwn oedd ei gyfarfod cyntaf yn y swydd honno. Roedd
y Pwyllgor wedi trafod cynlluniau parhad busnes ac yn fodlon ar y cynnydd a
wnaed yn y maes hwn yn dilyn adolygiad ym mis Hydref 2013. Roedd gwaith yn mynd
rhagddo yng nghyswllt perfformiad y cytundeb rheoli cyfleusterau a thrafododd y
Pwyllgor y risgiau corfforaethol a oedd yn gysylltiedig â’r Cynllun Ieithoedd
Swyddogol. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi Amlinelliad
o Archwiliad cyfrifon 2013-14, ac ni nodwyd unrhyw beth anarferol. Fel rhan o’r
sicrwydd archwilio arferol a roddir i gyflogau a lwfansau Aelodau, byddai
Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio samplau o gofnodion taliadau i staff
cymorth yr Aelodau. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Rhoddodd Angela Burns grynodeb o drafodaethau’r Pwyllgor
Plant a Phobl Ifanc ar yr angen i sicrhau bod gan ddarparwyr allanol, a oedd yn
gyfrifol am raglen Datblygu Proffesiynol Parhaus yr Aelodau, ddealltwriaeth
lawn o waith y Cynulliad, a sut y mae’n wahanol i waith deddfwrfeydd eraill.
Byddai swyddogion yn bwrw ymlaen â’r mater hwn. Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 6 Mawrth 2014.
Byddai’r agenda’n cynnwys Cofnod y Trafodion a’r newid yn y modd y darperir
gwasanaethau TGCh. Yr
Ysgrifenyddiaeth Chwefror 2014 |