Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad gan y Llywydd. Cytunwyd y
byddai Sandy Mewies AC yn Cadeirio'r cyfarfod.
Diolchwyd yn arbennig i Syr George Reid am ei
gyfraniad arbennig fel Cadeirydd Bwrdd Taliadau'r Cynulliad a dymunodd y
Comisiwn y gorau iddo. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd buddiannau i'w datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Chyllideb Ddrafft 2014-15 Papur 2 ac atodiad Cofnodion: Roedd angen gosod cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 i’w hystyried gan
y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan bellaf. Mewn cyfarfodydd blaenorol, roedd y
Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio'r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn, fel
y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd
flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn ym mis
Hydref 2011 a 2012. 2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer
y gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng
nghyllidebau'r ddwy flynedd flaenorol. Roedd gwaith wedi'i wneud dros yr haf i adolygu'r ddogfen yn unol ag
awgrymiadau'r Comisiynwyr. Roedd Angela Burns wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn gofyn iddi
gytuno i'r Comisiwn baratoi dim ond cyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16 yn y
Gyllideb ddrafft hon, a hynny oherwydd amserlen Adolygiad o Wariant y DU.
Hefyd, teimlai'r Comisiynwyr y byddai'n briodol parhau i ganolbwyntio ar amserlen
fyrrach ar gyfer y flwyddyn ddilynol (2016-17) gan y byddai hynny'n caniatáu i
Gomisiwn y Pumed Cynulliad baratoi ei gynlluniau ei hun ar gyfer gwahanol
gyfnodau. Byddai Angel Burns, Claire Clancy a Nicola Callow yn rhoi tystiolaeth i
Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 3 Hydref. Cytunwyd ar y gyllideb ddrafft a byddai'n cael ei gosod y prynhawn hwnnw.
Byddai'r Comisiwn yn ystyried unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid cyn
gosod y ddogfen i'r Cynulliad ei hystyried ym mis Tachwedd. Cafodd Nicola Callow ei chanmol gan y Comisiynwyr am ei gwaith arbennig yn gysylltiedig â'r gyllideb a diolchwyd iddi hi ac Angela Burns am eu hymdrechion wrth iddynt gwblhau'r drafft. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Yr Ysgrifenyddiaeth Medi 2013 |