Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Derbyn cofnodion 20 Mehefin Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Gwella ein gwasanaethau dwyieithog Cofnodion: Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn i fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Mae’r cynllun yn nodi camau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i gydymffurfio â’i ddyletswyddau fel y’u hamlinellir yn y Ddeddf, a’r camau a gaiff eu cymryd i gyflawni uchelgais y Comisiwn i ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae nifer o feysydd blaenoriaeth a thargedau wedi’u nodi yn y Cynllun a gaiff eu darparu dros y tair blynedd nesaf a fydd yn ein gosod fel sefydliad enghreifftiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Mae’r Cynllun hefyd yn rhoi sylw i’r materion a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad ac ymgyngoreion yn ystod y cyfnod y bu’r Cynulliad yn ystyried y Bil Ieithoedd Swyddogol. Cymeradwywyd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft gan y Comisiwn. Caiff ei ystyried gan y Cynulliad yn ystod wythnos ola’r tymor. Hefyd bu’r Comisiynwyr yn trafod ffyrdd y byddai modd gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog, i sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau. Yn benodol, teimlwyd bod cyfleoedd sylweddol i wneud defnydd arloesol o dechnolegau newydd. Cytunwyd y byddai’r swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cyfieithu peirianyddol, ac yn eu profi, ac y byddent yn cyflwyno’u cynigion i’r Comisiwn yn yr hydref. Daeth y Comisiynwyr i’r casgliad y byddai’n briodol rhoi ystyriaeth i’r opsiynau ar gyfer Cofnod y Trafodion ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, roeddent yn awyddus i edrych yn fanwl ar arferion a chynlluniau yn y seneddau eraill, a gwneud cynnydd o ran y cofnod clyweledol, cyn penderfynu ynghylch gwneud newidiadau i’r dull gweithredu. Cytunwyd y dylai swyddogion ymchwilio i’r materion a’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer Cofnod y Trafodion, ac y dylai’r Comisiwn ystyried y mater yn fwy manwl yn yr hydref. Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas a’i swyddogion am eu gwaith ar y Cynllun drafft a’u hymdrechion parhaus yn y maes hwn. Cytunwyd mai dim ond Agenda a Chofnodion y cyfarfod hwn fyddai’n cael eu cyhoeddi. Caiff y Cynllun i osod gerbron y Cynulliad ar 17 Gorffennaf 2013. Camau i’w cymryd: Y wybodaeth ddiweddaraf i gael ei rhoi i’r Comisiynwyr am nifer yr Aelodau Cynulliad sy’n gwneud eu cyfraniadau yn Gymraeg yn y Cyfarfod Llawn ac mewn cyfarfodydd pwyllgor. Y swyddogion i edrych ar y ddarpariaeth o wiriwyr sillafu/geiriaduron yn Gymraeg a Saesneg. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ieithoedd swyddogol |
|
Cyfieithu peirianyddol |
|
Y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi |