Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni ddaeth
ymddiheuriadau i law ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
13 Gorffennaf. |
|
Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22 Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiynwyr ddiwygiadau pellach i'r gyllideb ddrafft, gyda mân newidiadau ers
cyfarfod y Comisiwn ar 13 Gorffennaf. Gwnaethant gymeradwyo
Cyllideb Ddrafft 2021-22, cyn iddi gael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau
Sefydlog. At hynny, cytunodd y
Comisiynwyr ar y diwygiadau i'r datgeliadau ar gyfer Safon Cyfrifeg Ariannol
Ryngwladol newydd 16 – Prydlesi (IFRS 16) a diwygio blaenoriaethau Cronfa
Brosiect. At hynny, nododd y
Comisiwn y llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid. |
|
Diweddariad ynghylch COVID-19 Cofnodion: A. Diweddariad ynghylch Covid-19 Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a gafwyd ar drefniadau a fydd ar waith ar gyfer tymor yr hydref, a
thrafodwyd y newidiadau diweddar i reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Gwnaethant gytuno i ymestyn y cyfnod presennol o
fod ar gau i’r cyhoedd tan 8 Tachwedd er mwyn ystyried y trefniadau o ran pwy
sy’n bresennol yn yr adeilad yn eu cyfarfod nesaf, yn dilyn profiad hanner
cyntaf y tymor ac o ystyried y sefyllfa bryd hynny. B. Y dewisiadau o ran cynyddu’r niferoedd
sy’n bresennol mewn person yn y Cyfarfod Llawn Ystyriodd y
Comisiynwyr y dewisiadau o ran cynyddu capasiti’r Siambr er mwyn i’r Aelodau
allu bod yno yn ystod Cyfarfodydd Llawn, y tu hwnt i’r gallu presennol, tra bod
yn dal i fod angen cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr. Daethant i'r casgliad,
er ei bod yn bwysig eu bod wedi ystyried y dewisiadau, ni ddylid mynd ar
drywydd hynny ar hyn o bryd. |
|
Cysylltiadau gwleidyddol yr Aelodau Eitem lafar Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y broses o gofnodi cysylltiadau gwleidyddol Aelodau
nad oeddent yn perthyn i grwpiau pleidiau a gynrychiolir lle mae adnoddau'r
Comisiwn yn cael eu defnyddio, e.e. y wefan, Cofnod y Trafodion, darpariaeth
deunydd wedi’i argraffu, ac ati. Cytunodd y Comisiynwyr
y dylid caniatáu i'r Aelodau nodi eu cysylltiad ag unrhyw blaid sydd wedi'i
chofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiwn yn dychwelyd at y mater
yn ei adroddiad etifeddiaeth i'r Chweched Senedd. |
|
Urddas a Pharch - adroddiad ar yr arolwg Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiynwyr gynnwys y trydydd adroddiad sy’n adolygu perfformiad yn erbyn
ymrwymiad y Senedd i Urddas a Pharch, yn dilyn arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym
mis Mehefin 2020. Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n amserol
adolygu'r polisi yn ei gyfanrwydd – yn barod ar gyfer y Chweched Senedd yn
enwedig – ac ochr yn ochr â gwaith y Pwyllgor Safonau o adolygu'r Cod
Ymddygiad. At hynny, cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i feysydd gwaith y
dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Caiff yr adroddiad ei
gyhoeddi ar ôl ei gwblhau. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd Eitem lafar Cofnodion: Croesawodd y
Comisiynwyr ddiweddariad ynghylch paratoadau o ran gweithgareddau ymgysylltu ar
gyfer mis Tachwedd yr oeddent, yn eu barn hwy, yn gynhwysfawr ac yn amrywiol.
Gwnaethant drafod arwyddocâd estyn allan i gymunedau sy’n anodd eu cyrraedd, ac
roeddent yn gefnogol o'r dull, sydd eisoes yn dangos mwy o gyfranogiad gan
ystod fwy amrywiol o bobl. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd – Adroddiad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
yr adroddiad, sy'n cynnwys 32 o argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, y
Senedd, Comisiwn y Senedd, pleidiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau a'r Comisiwn
Etholiadol. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg |
|
Newid rheolau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
fod y Bwrdd Taliadau wedi ysgrifennu am gynnig i newid rheolau’r Cynllun i roi
hyblygrwydd i'r Actiwari, o ran pryd y mae'n rhaid cwblhau a llofnodi'r prisiad
actiwaraidd. Ymgynghorwyd â'r holl Aelodau. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: · Hwyluso datganiad trawsbleidiol – Cytunodd y Comisiynwyr i ymgynghori â'r Grŵp Trawsbleidiol
ar Gydraddoldeb Hiliol o ran hwyluso datblygu datganiad Cymraeg trawsbleidiol,
gan ymgorffori egwyddorion y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o
Wahaniaethu ar sail Hil, yn unol â chais y Senedd. · Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Nododd y Comisiynwyr lythyr a gafodd y Prif Weithredwr
gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn dilyn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor ar 21
Medi. Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un
penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau
ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb. |