Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Bydd Keith Bush, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, yn gadael y Cynulliad ym mis Hydref. Diolchodd y Llywydd a'r Comisiynwyr i Keith am ei gyngor a'i wasanaeth arbenigol ac amhrisiadwy yn ystod ei amser yn y Cynulliad a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion 12 Gorffennaf 2012. |
|
Cyllideb ddrafft 2013-14 Papur 2 Cofnodion: Mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft yn flynyddol erbyn 1 Hydref. Mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Cytunodd y Comisiwn ar ei gyllideb ddrafft, a gofyn iddo gael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog. Bydd Angela Burns AC, y Comisiynydd â chyfrifoldeb dros adnoddau, yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref 2012 i sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft. Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu gwaith ar y gyllideb ddrafft hyd yma. Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi gan y
byddai'r gyllideb ddrafft yn cael ei gosod y diwrnod canlynol. Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb ddrafft 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2012 |
|
Strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol Papur 3 Cofnodion: Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014. Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013. Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn
cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg. Ystyriodd y Pwyllgor ei strategaeth ddrafft ar gyfer gwasanaethau TGCh yn y dyfodol a chytuno i ddod i benderfyniad o ran darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol ym mis Tachwedd 2012. Bydd y Comisiynwyr yn trafod hyn ymhellach mewn cyfarfod ychwanegol ym mis Hydref. Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael
ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.
Cam i'w gymryd: Swyddogion i ddarparu costau manylach. |
|
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Cofnodion: Trafododd y Comisiwn drafodion
Cyfnod 3 a 4 y Bil, sydd i ddigwydd yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 3 Hydref, a chlywed y wybodaeth ddiweddaraf ar faterion yn
ymwneud â'r Bil a'r Cynllun. Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu hymdrechion hyd yma yn cefnogi'r Bil wrth iddo gael ei ystyried gan y Cynulliad. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf ac awgrymiadau gan y Comisiynydd Papur 4 Cofnodion: Rhannodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â'u portffolios. Darparu cefnogaeth seneddol o'r radd
flaenaf Mae’r gweithgareddau
a ganlyn yn mynd rhagddynt: datblygu technoleg XML ar gyfer trafodion
y Cyfarfod Llawn, datblygu Ap
ar gyfer y Cynulliad, ac ymestyn cyfleusterau di-wifr ar draws yr ystâd. Defnyddio adnoddau'n ddoeth Clywodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o staff Aelodau'r Cynulliad a'r adolygiad o drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad. |
|
Papur i'w nodi – Cofnodion y Pwyllgor Archwilio Papur 6 Cofnodion: Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf, ond nid oedd y cofnodion ar gael i'w cymeradwyo yn y cyfarfod hwnnw. Nododd y Comisiwn y cofnodion. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Clywodd y Comisiynwyr fod set newydd o Gynghorwyr Annibynnol yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd. Rhoddodd Keith Bush y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am yr her i gymhwysedd y Cynulliad o ran Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Yr Ysgrifenyddiaeth Medi 2012 |