Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau
gan Ken Skates AS am y rhan gyntaf o'r cyfarfod. |
|
Datgan buddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim
datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 6 Tachwedd. |
|
Ymateb i'r Pwyllgor Cyllid ynghylch: Adolygiad o’r Gyllideb Atodol Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn drwy ddiweddariad i’w
Adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion, gan wahodd ystyriaeth bellach o faterion
yn ymwneud â gweithdrefnau Cyllideb Atodol y Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu llythyr ymateb, sy’n rhoi sylwadau ar y prosesau ar gyfer cyllideb atodol
a chyllideb flynyddol ac yn gwneud awgrymiadau ar sut y gellid mynd i'r afael â
rhai o'r rhain, i'w hystyried gan y Pwyllgor. |
|
Ffyrdd o Weithio - Bae 2032 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
bapur a chyflwyniad yn nodi Achos Amlinellol Strategol (SOC) ar gyfer anghenion
ystad Bae y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'n bosibl mai hwn yw'r prosiect mwyaf a
mwyaf cymhleth i’r Comisiwn ymgymryd ag ef. Byddai'n sicrhau anghenion lle o
ran swyddfeydd tymor hir y Senedd, y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn y Bae, ger
adeilad y Senedd ei hun. Paratowyd yr Achos Amlinellol Strategol gan
ymgynghorwyr eiddo proffesiynol y Comisiwn (Avison Young). Roedd y Comisiwn wedi
cytuno i ddilyn proses 'Llyfr Gwyrdd' Trysorlys EF / Llywodraeth Cymru. O fewn
y broses honno, Achos Amlinellol Strategol yw cam cyntaf methodoleg achos
busnes tri cham sy'n addas ar gyfer prosiectau o'r cymhlethdod hwn a'r gost hon. Cymeradwyodd y Comisiwn Achos Amlinellol Strategol y Bae 2032, sy'n rhoi
mandad i swyddogion y Comisiwn symud prosiect Bae 2032 i’w gam nesaf, drwy
ddatblygu Achos Busnes Amlinellol a gweithio ymhellach ar y fersiwn gychwynnol
o’r ffordd ymlaen a ffefrir a nodir yn yr Achos Amlinellol Strategol o ran
datblygu cyfleuster newydd ar blot Sgwâr y Cynulliad y drws nesaf. Nododd y
Comisiynwyr nad yw'r Achos Amlinellol Strategol yn ceisio nac yn gofyn am
unrhyw benderfyniad ar unrhyw opsiwn llety gan y Comisiwn, ac y byddai
ystyriaethau o'r fath yn codi yn ddiweddarach yn y broses. Cytunwyd y dylid
paratoi nodyn briffio gwybodaeth ar gyfer yr Aelodau maes o law. Nododd y Comisiynwyr hefyd y byddai datblygu'r Achos Busnes Amlinellol yn
ei gwneud yn ofynnol i gaffael gwasanaethau proffesiynol allanol i’w ddrafftio
ac yna sicrhau ei ansawdd, ac y byddai cynigion yn hyn o beth yn cael eu
hystyried gan y Bwrdd Gweithredol maes o law. |
|
Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel 2026 Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr ragdybiaethau cynllunio drafft a
gynigiwyd i lywio darpariaeth ar gyfer yr anghenion a fyddai'n deillio o nifer
uwch o Aelodau. Mae cynigion Diwygio’r Senedd i gynyddu maint y Senedd i
96 o Aelodau yn golygu bod angen addasu Tŷ Hywel i ddarparu lle priodol ar
gyfer yr anghenion yn sgil cynnydd yn nifer yr Aelodau, a’u staff cymorth, a
darparu lle priodol hefyd i staff y Comisiwn, a digon o le ar gyfer nifer uwch
o swyddfeydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y rhagdybiaethau cynllunio arfaethedig ar gyfer prosiect Tŷ
Hywel 2026 ac amserlen lefel uchel i’w mabwysiadu fel man cychwyn i alluogi
datblygu opsiynau a chynigion manylach. Fe wnaethant nodi yr hoffent roi
ystyriaeth fanylach i’r opsiynau a'r cynlluniau cychwynnol a manwl mewn
cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Diweddariad a Chanlyniadau Arolwg Urddas a Pharch Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi digwydd ers i'r Comisiwn ystyried adolygiad
o'r fframwaith Urddas a Pharch ym mis Mehefin 2023, a chytunodd ar nifer o argymhellion,
a chanfyddiadau'r arolygon Urddas a Pharch a gynhaliwyd yn ddiweddar o ran
Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr y diweddariad cynnydd ar weithgarwch a gynhaliwyd ers
mis Mehefin 2023 ac adroddiad ar ganlyniadau arolwg Urddas a Pharch 2023 y
Senedd. Gofynnodd y Comisiynwyr i rywfaint o feincnodi gael ei gynnal a’u barn
y byddai dealltwriaeth o arfer da o amgylcheddau seneddol eraill yn
ddefnyddiol. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canfyddiadau'r
arolwg Urddas a Pharch gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad,
ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol. |
|
Canlyniadau Arolwg Aelodau a Staff Cymorth Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff
Cymorth, a gynhaliwyd rhwng 18 Medi a 15 Hydref 2023 ac a oedd ar agor i 60
Aelod a 267 o Staff Cymorth. Nododd y Comisiynwyr
ganlyniadau Arolwg Boddhad 2023 yr Aelodau / Staff Cymorth, ac y bydd crynodeb
o'r canlyniadau, fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol a'i gyhoeddi. Roeddent yn croesawu bod Dangosyddion
Perfformiad Allweddol wedi'u bodloni a bod y gyfradd ymateb i'r arolwg wedi
cynyddu ers y blynyddoedd blaenorol, ac yn ystyried ei bod yn bleser gweld y
cynnydd yn y gefnogaeth a ddarperir mewn perthynas â rhai gwasanaethau yn cael
ei adlewyrchu yng nghanlyniadau'r arolwg. |
|
Defnyddio grŵp e-bost 'holl staff y Comisiwn' Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gais a gafodd y Prif Weithredwr a'r Clerc. Roedd
Ochr yr Undebau Llafur wedi gofyn i'r Comisiwn ystyried a ddylid cyfyngu ar y
defnydd o grŵp e-bost 'holl staff y Comisiwn', h.y. ei gadw i'w ddefnyddio
ar gyfer negeseuon mewnol yn unig i staff y Comisiwn a’i atal rhag bod ar gael
i’w ddefnyddio gan yr Aelodau neu eu staff.
Sicrhawyd y
Comisiynwyr y byddai'r Aelodau'n parhau i allu cysylltu â staff y Comisiwn drwy
e-bost, ac i'r gwrthwyneb, mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir a
chytunwyd i'r cais. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
25 mlynedd o Ddatganoli – cynlluniau cyfathrebu ac ymgysylltu Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y cynigion cyfathrebu ac ymgysylltu i ddathlu 25 mlynedd
o ddatganoli yng Nghymru a fyddai'n cael eu datblygu ymhellach dros y misoedd
nesaf. |
|
Diweddariad 6 mis Dangosyddion Perfformiad Allweddol (Ebrill - Medi 2023) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr yr adolygiad o ddata’r 6 mis cyntaf (Ebrill - Medi 2023)
ar gyfer y Dangosyddion Perfformiad Allweddol corfforaethol allanol a bod y
mesurau dangosyddion allbwn a llwyth gwaith mewnol bellach wedi’i gwblhau, a
nid oes dim meysydd amlwg yn peri pryder. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Trafodaethau cytundeb cyflog – Nododd y Comisiynwyr fod y Prif Weithredwr wedi cael y
cais tâl ffurfiol gan Ochr yr Undebau Llafur a bod trafodaethau ar y gweill, a
byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod mis Ionawr y
Comisiwn. Cyflog byw gwirioneddol - Nododd y Comisiynwyr y
penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol i gynyddu pwyntiau 1 a 2 gradd TS o
gyflogres mis Rhagfyr. Llythyr gan Gadeirydd
Pwyllgor y Biliau Diwygio – Nododd y
Comisiynwyr fod y Llywydd wedi cael llythyr yn gofyn am wybodaeth am
ystyriaethau'r Comisiwn yn ymwneud â gweithio mewn hybiau. Ieithoedd swyddogol - cododd deiliad y portffolio awydd i drafod gyda
swyddogion y Comisiwn ddarparu cymorth i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan ym
musnes y pwyllgorau yn Gymraeg. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi nodi'r enwebiad i Grŵp
Llywodraethu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth yr Aelodau ac ymateb i Adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol ar Gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. |