Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Gwyn Price yn
dirprwyo ar ei rhan. |
|
(09:30-09:35) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Cyflog Uwch-reolwyr: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cyflog Uwch-reolwyr: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (21 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
Cyflog Uwch-reolwyr: Llythyr gan David Sissling (26 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (12 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan yr Athro Jean White (19 Chwefror 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:35-09:50) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-07-14
(papur 1) PAC(4)-07-14
(papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a'i
nodi. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion. 3.3 Nododd y Pwyllgor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnig paratoi
memorandwm ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar gyfer
hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig yn yr hydref. Wedyn, bydd yn
ystyried cynnal diweddariad i'r ymchwiliad ai peidio. |
|
(09:50-10:10) |
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-07-14
(papur 3) PAC(4)-07-14
(papur 4) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
ar Drefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i nodi. 4.2 Roedd y Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o eglurhad ynghylch rhai o
ymatebion y Llywodraeth a chytunodd i'w codi gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar
gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant. 4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur briffio ar drefniadau llywodraethu o
fewn GIG Cymru a hefyd ar wasanaethau iechyd arbenigol. Cytunodd Swyddfa
Archwilio Cymru i'w darparu. |
|
(10:10-11:30) |
Cyflog Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 4 PAC(4)-05-14 (papur 5) Briffio ymchwil Robert Oxley - Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd, Cynghrair y
Trethdalwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Robert Oxley o Gynghrair y
Trethdalwyr ar Gyflog Uwch-Reolwyr. 5.2 Cytunodd Robert Oxley i ddarparu copi o adroddiad y
Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar y premiymau o ran cyflog yn y sector cyhoeddus
a hefyd yr erthygl o'r Local Government Chronicle y cyfeiriodd ati. 5.3 Yn dilyn y sesiwn, gofynnodd y Pwyllgor iddo am
gyfeiriad at y sail ar gyfer ei honiadau ynghylch cyfran y bobl sy'n ennill
rhwng £100,000 a £150,000 a mwy na £150,000 yng Nghymru. |
|
(11:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau
7, 8 & 9 Cofnodion: 6.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(11:30-11:45) |
Cyflog Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a nodi y byddai'n
dychwelyd at y mater ar 3 Ebrill. 7.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Clercod gysylltu â Grŵp Hay i gael
manylion ynghylch pryd cafodd tâl is ei awgrymu ar gyfer uwch swydd ac unrhyw
enghreifftiau o arfer da o ran cyflog sy'n gysylltiedig â pherfformiad. |
|
(11:45-12:15) |
Trafod rhaglen astudiaethau gwerth am arian Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 8.1 Cafwyd cyflwyniad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y gwaith
presennol a'r gwaith i ddod yn rhaglen Swyddfa Archwilio Cymru. 8.2 Trafododd y Pwyllgor y rhaglen awgrymedig a gwneud nifer o awgrymiadau
a fydd wedi'u cynnwys yn y papur terfynol. |
|
(12:15-13:00) |
Gofal heb ei drefnu: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-07-14 (papur 6) Cofnodion: 9.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, trafododd yr Aelodau ran o'r adroddiad
drafft; bydd yn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol. |