Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG ym mis Mehefin 2013. Er bod yr adroddiad wedi canfod bod y fframwaith wedi darparu rhai manteision, nododd hefyd fod angen gwneud rhagor er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phobl mewn ffordd deg a chyson.

Pan gaiff unigolion eu nodi fel pobl sydd ag angen iechyd sylfaenol yn ôl eu hasesiad, byddant yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sy’n becyn gofal a chymorth a ddarperir i ddiwallu holl anghenion unigolion yn ôl eu hasesiad, gan gynnwys eu hanghenion gofal corfforol, gofal iechyd meddwl a’u hanghenion gofal personol. Darperir Gofal Iechyd Parhaus yn aml am y tymor hwy, er y gall fod yn ysbeidiol, gyda rhai pobl yn newid o fod yn gymwys i beidio â bod yn gymwys, ac fel arall. Pan fydd person yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus, mae’r GIG yn gyfrifol am ariannu’r pecyn llawn o ofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Roedd canfyddiadau adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cwmpasu dau faes:

·         y gellid gwella’r Fframwaith mewn nifer o feysydd, ac y gellid monitro ei effaith yn fanylach; nid yw’r Fframwaith wedi cael ei weithredu’n llawn ledled Cymru; ac nid oes sicrwydd llawn bod penderfyniadau’n deg ac yn gyson o fewn y Byrddau Iechyd na rhyngddynt.

·         bod risg sylweddol na fydd y prosiect cenedlaethol i ymdrin â hawliadau ôl-weithredol yn cael ei gyflawni yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni, a bod ôl-groniadau o hawliadau ôl-weithredol newydd wedi datblygu yn y byrddau iechyd.

Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn friffio ar ganfyddiadau’r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin at 2013. Yn sgîl y materion a drafodwyd yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, a darparwyd y dystiolaeth honno ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2013

Angen Penderfyniad: 10 Gorff 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau