Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammed Asghar. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09:00-10:15)

2.

Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth

PAC(4)-01-14 (papur 1)

 

Dr Andrew Goodall - Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ynghylch gofal heb ei drefnu.

 

2.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(10:15-11:30)

3.

Gofal heb ei drefnu: Sesiwn dystiolaeth

Dr Chris Jones - Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

 

Cofnodion:

3.1 Holodd y Pwyllgor Dr Chris Jones o Fwrdd Iechyd Cwm Taf ynghylch gofal heb ei drefnu.

 

3.2 Cytunodd Dr Jones i anfon ymateb ysgrifenedig yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran gweithredu argymhellion y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar ofal y tu allan i oriau.

 

(11:30 - 11:35)

4.

Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-01-14 (papur 2)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-Coed a Gwynllŵg, a'i nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ganfod a ellir cyflawni'r gyfundrefn archwilio trawsffiniol heb ddeddfwriaeth.

 

(11:35)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papurau.

 

5a

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (9 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:

5b

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (20 Tachwedd 2013)

Dogfennau ategol:

5c

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan (12 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:

5d

Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (11 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:

5e

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:

(11:35)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 7, 8, 9 a 10

 

Cofnodion:

6.1 Cytunwyd ar y cynnig.

 

(11:45 - 12:05)

7.

Gofal heb ei drefnu: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion a godwyd yn y dystiolaeth.

 

(12:05-12:20)

8.

Fferm Bysgod Penmon: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru a nododd fod dau adroddiad pellach yn cael eu paratoi ar faterion tebyg yn ymwneud â chyllid grant. Nododd y Pwyllgor hefyd fod disgwyl i Lywodraeth Cymru anfon adroddiad blynyddol ar reoli grantiau i'r Pwyllgor a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth pan fydd yr holl wybodaeth hon ar gael.

 

(12:20 - 12:50)

9.

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

9.1 Roedd gwybodaeth bellach am yr ymchwiliad hwn wedi dod i law gan Swyddfa Archwilio Cymru a ystyriwyd gan y Pwyllgor a bydd yr adroddiad yn adlewyrchu hyn. Trefnir amser i drafod adroddiad drafft yn ddiweddarach y mis hwn.

 

(12:50-13:00)

10.

Memorandwm ar gyfer Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

PAC(4)-01-14(papur 3)

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr a'r Memorandwm.