Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

(09:00 - 09:45)

2.

Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-28-13 papur 1

 

David Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru

Kevin Flynn - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Martin Sollis - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Kevin Flynn, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru a Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru, ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt.

 

Camau gweithredu:

 

·       Cytunodd Mr Sissling i anfon manylion y costau yr eir iddynt gan Fyrddau Iechyd ar gyfer cymorth allanol i reoli cyllidebau.

·       Cytunodd Mr Sissling i anfon manylion am Fformiwla Townsend.

·       Cytunodd Mr Sissling i anfon nodyn yn rhoi manylion am y dadansoddiad a wnaed o achosion o ganslo triniaethau dewisol yn ystod y gaeaf 2012/13.

 

(09:45 - 10:35)

3.

Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

PAC(4)-28-13 papur 2

 

Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt.

 

Cam gweithredu:

 

·       Cytunodd Mr Cairns i anfon nodyn ynglŷn â sut yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfrifo’r ffigur a roddwyd i nodi bod y contract meddygon ymgynghorol yn llai effeithiol, sef 14%.

·       Cytunodd Mr Cairns i anfon nodyn ynghylch nifer bresennol y cleifion yn y Bwrdd Iechyd a oedd yn aros i’w gofal gael ei drosglwyddo.

 

(10:35)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papurau.

 

4a

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan David Sissling (22 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4b

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (31 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4c

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (15 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4d

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (11 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4e

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan yr Athro Merfyn Jones (4 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4f

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (2 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:

4g

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (12 Medi 2013)

Dogfennau ategol:

4h

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Mary Burrows (12 Medi 2013)

Dogfennau ategol:

4i

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan David Sissling (2 Awst 2013)

Dogfennau ategol:

4j

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Mary Burrows (18 Gorffennaf 2013)

Dogfennau ategol:

4k

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Bwyllgor Meddygon Ymgynghorol ac Arbenigwyr Gwynedd (5 Gorffennaf 2013)

Dogfennau ategol:

(10:35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6, 7 ac 8

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:35 - 10:40)

6.

Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt.

 

(10:40 - 10:45)

7.

Cyflog Uwch-reolwyr

PAC(4)-28-13 papur 3

 

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur ac roedd yn cytuno â’r tystion a awgrymwyd.

 

(10:45 - 11:00)

8.

Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(4)-28-13 papur 4

 

Cofnodion:

8.1 Nid oedd digon o amser i drafod y papur hwn. Cytunwyd y byddai’r Clercod yn anfon y papur at yr Aelodau drwy e-bost gan ofyn am unrhwy safbwyntiau, a bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.