Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 09.30) |
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): Trafod penodi cynghorydd arbenigol Papur 1 -
Ceisiadau Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor y ceisiadau a bydd y Clerc yn
cysylltu â'r ymgeisydd a ffafriwyd. |
|
(09.30 - 09.45) |
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Ystyriaeth gychwynnol Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) a
chytunodd i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfarfod er
mwyn craffu ymhellach. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 3.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Mike Hedges AC. |
|
(10.00 - 11.00) |
Ariannu yn y dyfodol: Sesiwn dystiolaeth 2 Alistair
Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannol, Llywodraeth yr Alban Sean Neill,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifoldeb Ariannol, Llywodraeth yr Alban Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth drwy gynhadledd fideo gan Alistair Brown, Cyfarwyddwr
Strategaeth Ariannol, a Sean Neill, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifoldeb Ariannol,
Llywodraeth yr Alban. 4.2
Cytunodd swyddogion Llywodraeth yr Alban i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r
Pwyllgor ar City Deals, ac i ymateb yn ysgrifenedig i'r cwestiynau nas
cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ariannu yn y dyfodol: Sesiwn dystiolaeth 3 Alan
Trench, arbenigwr ar ddatganoli ac aelod o Gomisiwn Adolygu Canolfan Bingham ar
gyfer Trefn y Gyfraith Adroddiad
Canolfan Bingham ar Reolaeth y Gyfraith: ‘Croesffordd Gyfansoddiadol: Ffyrdd
Ymlaen ar gyfer y Deyrnas Unedig’ (Saesneg yn unig) Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Trench, arbenigwr ar ddatganoli ac aelod o
Gomisiwn Adolygu Canolfan Bingham ar gyfer Trefn y Gyfraith. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 7
ac 8 Cofnodion: 6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Ariannu yn y dyfodol: Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15 - 12.30) |
Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth ymhellach Papur 2 – Cyllid Cymru
– dilyn y mater Papur 3 – Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan
Kevin O’Leary, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyllid Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y mater a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. |