Ymchwiliad i Cyllid Cymru

Diben yr ymchwiliad oedd edrych ar y modd y mae Cyllid Cymru yn gweithredu ar hyn o bryd, a'i rôl yn y dyfodol. Bu’r Pwyllgor Cyllid yn ystyried:

 

  • y canlyniadau a gyflawnir gan Gyllid Cymru, ac a yw'r rheini yn werth yr arian;
  • a yw strwythur corfforaethol cyfredol Cyllid Cymru yn ateb y diben, gan ystyried yn wrthrychol yr effaith o fynd ar drywydd unrhyw fodelau gweithredu amgen eraill;
  • y modd y mae gweithgareddau Cyllid Cymru yn cyfrannu at ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru o safbwynt datblygu economaidd yng Nghymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am Cyllid Cymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau