Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Mercher, 20 Mehefin 2012 10.00
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lindsay Whittle. Nid oedd unrhyw ddirprwyon. |
||
(10.00 - 10.30) |
Trafodaeth ar y flaenraglen waith - hydref 2012 Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad polisi byr i strategaeth yn y dyfodol ar gyfer diabetes yng Nghymru yn nhymor yr hydref, i’w amserlennu o amgylch ei ymrwymiadau craffu deddfwriaethol a chyllidebol. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei ymchwiliad polisi tymor hwy nesaf yn canolbwyntio ar werthusiad o dechnoleg feddygol. Cytunodd y Pwyllgor y byddai amseriad y broses o gasglu tystiolaeth lafar ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn dibynnu ar raglen graffu ddeddfwriaethol y Pwyllgor. 2.3 Gwnaeth y Pwyllgor gais i’r cylch gorchwyl drafft ar gyfer y ddau ymchwiliad polisi gael eu paratoi gan yr ysgrifenyddiaeth fel y gellir cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus dros doriad yr haf. 2.4 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu sesiwn gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i drafod ei adroddiad blynyddol yn nhymor yr hydref. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn - Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol HSC(4)-18-12 papur 1 Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Steve Milsom, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Gwasanaethau
Cymdeithasol Oedolion Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion y cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn. 3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am sut mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ymgynghori â’r undebau llafur fel rhan o’i chynllun i foderneiddio’r broses reoleiddio ac arolygu, ac i ofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ddarparu gwybodaeth am dargedau Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o ragor o gyfleusterau gofal fel ffordd o ateb anghenion pobl hŷn. |
|
(11.30 - 12.30) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) : Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 1 Y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC David Worthington - Pennaeth yr Is-adran Diogelu Iechyd, Llywodraeth Cymru Christopher Humphreys - Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Cadeirydd i egluro pam mae’r manylion ynghylch yr hysbysiadau cost benodedig wedi’u cynnwys yn y Bil a pham nad yw’r esemptiadau posibl i’r cynllun wedi’u cynnwys ar y cam hwn. |
|
Papurau i'w nodi |
||
P-03-295: Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig HSC(4)-18-12 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Confensiwn gan y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl hŷn HSC(4)-18-12 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: |
||
Trawsgrifiad |