Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi craffu yn gyfnodol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru;
  • herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru;
  • annog arfer gorau yn y ffordd y caiff pobl hŷn eu trin yng Nghymru; ac
  • adolygu’r cyfreithiau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

Nodir pwerau statudol a rôl y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 ac yn Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.

 

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.

 

Gwaith presennol

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Comisiynydd i'w gyfarfod ar 20 Ionawr 2016. Prif nod y cyfarfod oedd i glywed barn y Comisiynydd am y camau a gymerwyd hyd yma i weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal.

 

Er mwyn llywio'r sesiwn, gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig gan y Comisiynydd (llythyr [PDF, 480KB], amserlen y digwyddiadau [PDF, 41KB], tystiolaeth ysgrifenedig [PDF, 609KB]) a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (llythyr [PDF, 133KB], y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru [PDF, 170KB]). Mae’r adroddiadau cynnydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru i’r Comisiynydd, y cyfeirir atynt yn llythyr y Gweinidog, wedi’u cyhoeddi yn atodiadau C a D o dystiolaeth ysgrifenedig y Comisiynydd.

 

Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 452KB) i ofyn am sicrwydd ac eglurhad pellach ar nifer o faterion. Anfonwyd copi o’r llythyr hwn at y Comisiynydd ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gan ei fod yn berthnasol i’w gwaith. Anfonwyd y llythyr hefyd at y Prif Weinidog gan fod ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros benodiadau cyhoeddus, gan gynnwys comisiynwyr statudol yng Nghymru.

 

Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 267KB) a’r Comisiynydd (PDF, 248KB) ym mis Mawrth 2016.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2014

Dogfennau