Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
||
(09.45 - 10.15) |
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - trafod amserlen yr ymchwiliad a phenodi cynghorydd arbenigol HSC(4)-01-12 papur 1a – Amserlen yr ymchwiliad HSC(4)-01-12 papur 1b – Penodi cynghorydd arbennigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod amserlen yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn a phenodi cynghorydd arbenigol. 2.2 Daeth y
Pwyllgor i gytundeb ynghylch yr amserlen a chlustnodi themâu allweddol i aelodau
unigol. Ni ddaeth y Pwyllgor i gytundeb ynghylch manyleb swydd y cynghorydd arbenigol,
ac o’r herwydd, methodd ag enwebu ymgeisydd addas. Cytunodd yr aelodau i
ddirprwyo gwaith pellach ynghylch manyleb swydd y cynghorydd arbenigol ac
ymgeiswyr posibl i’r Cadeirydd. |
|
(10.15 - 10.30) |
Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - trafod y dull o ystyried y Bil drafft HSC(4)-01-12 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor gyhoeddi’r Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). 3.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull o ystyried y Bil drafft a chytunodd y dylai ofyn am wasanaeth briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor mai pwrpas y hyn fyddai er mwyn bod yn ymwybodol o ddatblygiadau gyda’r Bil drafft yn hytrach na mynegi barn am ei gynnwys. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol HSC(4)-01-12 papur 3 Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Gwyn Thomas, y Prif Swyddog Gwybodaeth Andrew Evans, Uwch-gynghorydd Polisi Roger Walker, y Prif Gynghorydd Fferyllol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Bu’r
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion yn ymateb i
gwestiynau am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau
iechyd yng Nghymru. 4.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu copi o’r papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ar iechyd y
cyhoedd ynghylch gwerthuso cynllun mân anhwylderau fferyllfeydd cymunedol yn
ngogledd-ddwyrain Lloegr. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr HSC(4)-13-11 cofnodion Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol, llythyron gan y Dirprwy Weinidog Plant
a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol a gafwyd
ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd
yng Nghymru. |
||
Trawsgrifiad |
||
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol HSC(4)-01-13 papur 4 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol - rhoi'r pecyn gwella camau cyntaf ar waith HSC(4)-01-12 papur 5 Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol Llythyr gan y Cadeirydd at y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fferylliaeth Gymunedol Cymru HSC(4)-01-12 papur 6 Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol HSC(4)-01-12 papur 7 Fferylliaeth Gymunedol Cymru HSC(4)-01-12 papur 8 Y Gymdeithas Cynllunio Teulu – gwybodaeth yn dilyn y sesiwn tystiolaeth lafar ar 16 Tachwedd HSC(4)-01-12 papur 9 Dogfennau ategol: |