Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar arddangos sgoriau hylendid bwyd

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar arddangos sgoriau hylendid bwyd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 14 Rhagfyr 2011 i geisio barn ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd yng Nghymru arddangos gwybodaeth am eu safonau hylendid (eu sgôr hylendid bwyd). Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2012. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 2 Chwefror 2012 er mwyn cael trosolwg o'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) Drafft, strategaeth yr ymgynghoriad, a'r amserlen ar gyfer y camau nesaf.

 

Mae'r holl wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ar gael ar wefan y Bil.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/03/2016