Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
(14:00 - 15:00) |
Craffu ar Adroddiad Comisiynydd Pobl Hyn Cymru ar gyfer 2010/11 HSC(4)-06-11 papur 1 Ruth Marks MBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd
Pobl Hŷn Cymru Alun Thomas, Pennaeth Adolygu,
Archwilio a Pholisi Mae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2010-11 ar gael fan hyn: http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Annual_Reports/OPCFW_Annual_Report_Welsh.sflb.ashx Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y Comisiynydd a’i chydweithwyr i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar ei hadroddiad blynyddol. 2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu adroddiad â’r Pwyllgor ar ymchwil sy’n cael ei wneud gan Brifysgol Abertawe ar gau cartrefi gofal, gwybodaeth bellach am waith ymgynghori arwyddocaol sy’n cael ei wneud ac adroddiad ar ymweliad a wnaed gan ei swyddfa i’r Alban i ystyried effaith Deddf 2007 ar ddarparu cymorth i oedolion a’u hamddiffyn. |
|
(15:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig, o dan Reol Sefydlog 17.42(vi), i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar 12 Hydref ar gyfer eitem 1. |
|
Trawsgrifiad |