Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF227KB) Gweld
fel HTML (155KB). |
||
(09.30 - 09.45) |
Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: paratoi at sesiwn dystiolaeth lafar Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r sesiwn graffu gyda'r
Comisiynydd. |
|
(09.45) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.45 - 11.15) |
Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Gwybodaeth ategol: Noder: Mae’r adroddiadau cynnydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru a Llywodraeth Cymru i’r Comisiynydd, y cyfeirir atynt yn llythyr y
Gweinidog, wedi’u cyhoeddi yn atodiadau C a D o dystiolaeth ysgrifenedig y
Comisiynydd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor: ·
amserlen yn amlinellu pryd y mae'n disgwyl gallu darparu tystiolaeth o
ganlyniadau sy'n deillio o'r 'anghenion gweithredu' yn ei hadolygiad o Gartrefi
Gofal; ·
rhestr o gamau gweithredu a gwaith dilynol ym maes gofal preswyl y mae'n
bwriadu eu cadarnhau maes o law. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 11.30) |
Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i
ysgrifennu at y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i amlinellu ei farn. |
|
(11.30 - 11.45) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi): Trafod yr ymdriniaeth ohono Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol
(Arloesi) a chytunwyd ar y ffordd honno.
|