Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Alun Davidson 029 2089 8639
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: 1.1 Cafodd William Powell ei
ethol yn Gadeirydd dros dro. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Dafydd Elis-Thomas a Vaughan Gething ar ôl iddo gael ei benodi yn Ddirprwy
Weinidog yn Llywodraeth Cymru. |
||
(09.30 - 11.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth Ed Bailey, NFU Cymru Keri Davies, Grŵp Organig Cymru Sue Evans, Cymdeithas y Tirfeddianwyr Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Brian Pawson, Cyfoeth Naturiol Cymru Arfon Williams, Cyswllt Amgylchedd Cymru Cofnodion: 3.1 Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Nick Fenwick i
ddarparu copi o’r ffigurau a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor ynghylch incwm o
dwristiaeth bywyd gwyllt. 3.3 Cytunodd Nick Fenwick,
Brian Pawson ac Arfon Williams i ddarparu rhagor o wybodaeth yn ysgrifenedig am
incwm a gollwyd mewn perthynas â chynlluniau amaeth-amgylcheddol. |
|
(11.10 - 12.40) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygiadau i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin - Trafodaeth Gareth Cunningham, Cyswllt Amgylchedd Cymru Dr Euan Dunn, RSPB Cymru Clare Eno, Cyfoeth Naturiol Cymru Jeremy Percy, New Under Ten Fishermen's Association Joanne Sherwood, Cyfoeth Naturiol Cymru Cofnodion: 4.1 Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd Jeremy Percy i
ddarparu copi o’r nodyn a gynhyrchodd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a
Materion Gwledig ynghylch bysgodfeydd ar raddfa fach |
|
Papurau i’w nodi |
||
Polisi dŵr yng Nghymru - Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd E&S(4)-20-13 papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 7, 8, 9 a 10 Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y
cynnig. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ystyried y busnes a drefnwyd ar gyfer y sesiwn breifat drwy e-bost. |
||
Polisi dŵr yng Nghymru - Adroddiad drafft |
||
Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd - Adroddiad drafft |
||
Blaenraglen Waith |
||
Ymchwiliad i reoli tir cynaliadwy - Ystyried y cylch gorchwyl |