Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd
Cynlluniau datblygu lleol a ffigurau poblogaeth/aelwydydd
Cylch Gorchwyl
Archwilio pa mor ymarferol bosibl yw bod Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru yn gallu cynhyrchu eu rhagolygon eu hunain ynghylch poblogaeth ac aelwydydd, gan gynnwys cynhyrchu digon o dystiolaeth i amddiffyn y rhagolygon hyn fel sail i ddyraniadau tir ar gyfer tai yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol, neu, a ydynt mewn gwirionedd wedi’u cyfyngu i ddefnyddio Amcanestyniadau Poblogaeth ac Aelwydydd Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u seilio ar dueddiadau.
Materion y dylid eu cynnwys
- I ba raddau
y mae Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi ymwneud â’r gwaith o ddatblygu rhagdybiaethau sy’n sail i amcanestyniadau Llywodraeth
Cymru, ac a ydynt yn gefnogol i’r rhagdybiaethau hyn.
- Y gofynion technegol a’r gofynion o ran adnoddau a fyddai’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i baratoi eu rhagolygon eu hunain sy’n seiliedig ar bolisi, gan gynnwys galluogi’r Awdurdodau i gasglu digon o dystiolaeth i amddiffyn y rhagolygon mewn Archwiliad Cyhoeddus o’r Cynlluniau Datblygu Lleol.
- I ba raddau
y mae Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi cydweithio ar ragolygon, ar lefel ranbarthol neu isranbarthol, er mwyn cyfrannu
at y Cynlluniau Datblygu
Lleol.
- I ba raddau
y mae’r amser a gymerir i gytuno ar y boblogaeth leol a nifer yr aelwydydd yn gyfrifol am yr oedi i roi Cynlluniau Datblygu Lleol ar waith.
- Sut y bydd amcanestyniadau
sydd i’w cynhyrchu yn 2013, sy’n seiliedig ar Gyfrifiad Poblogaeth 2011, yn cael eu hystyried
yn y broses o ddatblygu
Cynlluniau Datblygu Lleol?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/08/2013
Dogfennau