Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd dirprwy.

(10:00 - 11:00)

2.

Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Tystiolaeth gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

E&S(4)-21-12 papur 1: Llywodraeth Cymru

 

John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Nicola Edwards, Pennaeth y Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Prys Davies, Dirprwy Cyfarwyddwr - Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy’n ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Yn unol â cheisiadau a wnaed gan aelodau’r Pwyllgor, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·         Tabl sy’n cynnwys ffigurau ar wahân ar gyfer y dyraniadau ariannol a wneir ar gyfer rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol o gyllideb yr Adran, o gyllideb graidd y Llywodraeth ganolog ac o raglenni Ewropeaidd.

·         Gwybodaeth am y gwaith a wneir ar y cyd gyda’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar y Bartneriaeth Môr Glas, mewn perthynas â diogelu’r arfordir a thwristiaeth.

(11:00 - 12:00)

3.

Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Dŵr: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

E&S(4)-21-12 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ffaith nad oes ganddo wrthwynebiad i ddefnyddio’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, fel y’i cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 27 Mehefin a 5 Gorffennaf.

Dogfennau ategol:

4a

Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir - Papur gan Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

E&S(4)-21-12 paper 3 – Welsh Government

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod.

 

(12:00 - 13:00)

6.

Trafodaeth ar y flaenraglen waith - Tymor yr Hydref 2012

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr Hydref 2012.

7.

Polisi Amaethyddol Cyffredin - llythyr drafft

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Trawsgrifiad