Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir

Ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir

Diogelu’r Arfordir yng Nghymru: Cylch Gorchwyl

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol gyntaf ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a oedd yn amlinellu eu hymrwymiad i reoli’r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol drwy Gymru, ym mis Tachwedd 2011.

 

Yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2012, cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad i ddiogelu’r arfordir yng Nghymru. Diben yr ymchwiliad hwn yw:

 

  • asesu cynnydd Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau risg llifogydd yng Nghymru o ran gweithredu amcanion y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru;
  • ystyried sut yr adlewyrchir amcanion y Strategaeth yn y Cynlluniau Rheoli Traethlin a’r Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol;
  • casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y Strategaeth a sut y darperir hi, a sut y byddai modd gwella hyn;
  • casglu safbwyntiau ynghylch sut yr ariennir y gwaith o ddiogelu’r arfordir a sut y byddai modd gwella hyn;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut y byddai modd gwella darpariaeth dulliau diogelu’r arfordir yng Nghymru ac ariannu’r ddarpariaeth honno.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

 

  • a oes unrhyw rwystrau i ddatblygu’r gwaith o ddiogelu’r arfordir yng Nghymru a sut y byddai modd mynd i’r afael â hwy?
  • ar ba gam yn eu datblygiad y mae’r Strategaethau Perygl Llifogydd Lleol ar hyn o bryd, a sut y byddant yn gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol a’r Cynlluniau Rheoli Traethlin?
  • pa mor effeithiol yw’r dulliau o ariannu gwaith diogelu’r arfordir ar hyn o bryd?
  • beth a wneir i gyfathrebu ynghylch amcanion diogelu’r arfordir a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hyn, a beth yw’r cynlluniau ar gyfer cyfathrebu yn eu cylch yn y dyfodol?
  • beth yw safbwyntiau rhanddeiliaid am y pwyntiau gwahanol hyn?

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/11/2013

Dogfennau