Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 536KB) Gweld
fel HTML (493KB) |
||
Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: Etholwyd David Rees yn Gadeirydd dros dro, yn unol
â Rheol Sefydlog 17.22. |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Ann Jones a John Griffiths, ac nid oedd unrhyw ddirprwyon. Datganodd Simon Thomas fuddiant perthnasol gan fod ei
blentyn yn ddisgybl yn ardal ERW. Datganodd Aled Roberts fuddiant perthnasol
gan fod ei blentyn yn ddisgybl yn ardal GwE. Datganodd Keith Davies fuddiant
perthnasol gan ei fod ar fwrdd llywodraethwyr un o’r ysgolion yn ardal ERW.
Datganodd David Rees fuddiant perthnasol gan fod ei wyrion yn ddisgyblion yn
ardal ERW. |
|
(09.30 - 10.30) |
Trafodaeth â Chonsortia Addysg Rhanbarthol – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) ERW CYPE(4)-22-15 – Papur 1 Betsan O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr - ERW Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor gasgliadau adroddiadau Estyn a
Swyddfa Archwilio Cymru gyda chynrychiolwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol. Cytunodd ERW i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion
ariannol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
(10.30 - 11.30) |
Trafodaeth â Chonsortia Addysg Rhanbarthol - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) GwE CYPE(4)-22-15 – Papur 2 Huw Foster
Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr - GwE Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd GwE i baratoi nodyn am gost rhaglenni dileu swyddi.
|
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau.
|
||
Llythyr gan NSPCC Cymru CYPE(4)-22-15 – Papur i'w nodi 3 Dogfennau ategol: |
||
Prifysgolion Cymru Nodyn briffio ar y gyllideb 2016-17 Llywodraeth Cymru CYPE(3)-22-14 – Papur i’w nodi 4 Dogfennau ategol: |
||
(11.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.30 - 12.00) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor CYPE(4)-22-15 – Papur preifat 5 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith. Cytunwyd y
byddai’r rhaglen waith yn cael ei hystyried eto mewn cyfarfod yn y dyfodol. |