Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 o safbwynt strategol a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol yn cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliodd y pwyllgorau sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sy’n dod o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn gwnaethant adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon oedd ganddynt.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr 2015.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i gynigion y gyllideb ddrafft rhwng 9 Rhagfyr 2015 a 7 Ionawr 2016.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid adroddiad ar ei waith Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru Ddrafft 2016-17 (PDF, 1MB) ar 2 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd dadl ar y gyllideb ddrafft yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Chwefror 2016.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 608KB) ar 6 Mawrth 2016.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2015