Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Angela Burns, John Griffiths a David Rees. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 4 Prifysgol
Cymru y Drindod Dewi Sant CYPE(4)-10-15
– Papur 1 Yr Athro
Ken Jones, Uwch Ymgynghorydd ar gyfer Dysgu
Proffesiynol Parhaus Peter
Thomas, Cydlynydd y Rhaglen Cymorth a Datblygu ar gyfer Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Cadeirydd dystiolaeth gan yr Athro Ken Jones a Peter Thomas o Brifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi - Sesiwn dystiolaeth 5 Cymdeithas
Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau CYPE(4)-10-15
– Papur 2 Rex
Phillips, Trefnydd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr
Athrawesau. |
|
(11.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y
papurau. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Penodiad Cadeirydd newydd i Fwrdd Cysgodol Cymwysterau Cymru CYPE(4)-10-15
– Papur i'w nodi 3 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd CYPE(4)-10-15
– Papur i'w nodi 4 Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod: Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
(11.30 - 12.00) |
Trafod y flaenraglen waith CYPE(4)-10-15
– Papur preifat 5 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y flaenraglen waith, sy'n rhoi amlinelliad o'r gwaith y mae'r Pwyllgor
wedi ymrwymo i'w wneud, a phynciau posibl ar gyfer gwaith y dyfodol. Cytunodd y
Pwyllgor i wneud gwaith yn y meysydd a ganlyn: - Dau ymchwiliad dilynol penodol i Wasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, yn benodol ar y defnydd o feddyginiaeth ar
bresgripsiwn yng nghyd-destun y gwasanaethau a darparu'r gwasanaethau ar lefel
sylfaenol; - Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn
Addysg; - Y Consortia Rhanbarthol; - Gwaith etifeddiaeth; - Craffu ariannol yn ystod y
flwyddyn. Trafododd y
Pwyllgor hefyd lythyr gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a chytunwyd
y byddai'n ymateb i'r Gweinidog yn ysgrifenedig. |